Rhun ap Iorwerth yn galw am Strategaeth unswydd ar Gerbydau Allyriadau Hynod Isel

Mae Rhun ap Iorwerth wedi annog Llywodraeth Cymru i gymryd yr awenau a dangos fod Cymru’n awyddus i groesawu’r dyfodol o ran Cerbydau Allyriadau Hynod Isel , wedi lansio adroddiad yn amlinellu’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yn rhannau eraill y DG ar y pwnc, a sut y mae Cymru’n cael ei gadael ar ôl.

Mae Driving Change: Scottish Lessons for Wales’ EV Future yn adroddiad sy’n cael ei lansio heddiw gan Weinidog cysgodol y Blaid dros yr Economi a Chyllid, Rhun ap Iorwerth, sydd yn dangos yr heriau sy’n wynebu Cymru o ran mabwysiadu agenda CT ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i annog y genedl i fynd yn drydanol.

Cyn lansio’r adroddiad, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae arnom angen strategaeth CAHY eang a chynhwysfawr, nid rhywbeth sy’n cael ei gynnwys yn unig fel rhan o strategaeth ehangach ar leihau carbon, fel y gwelsom gyda’r Cynllun Carbon Isel a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â chryfhau’r rhwydweithiau pŵer, mae angen cynllunio’r seilwaith gwefru yn ofalus.

“Gallai Llywodraeth Cymru naill ai aros nes bod digon o bobl yn brynu CAHY cyn sbarduno eu buddsoddiad eu hunain mewn seilwaith, sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi, neu fe allent ddilyn esiampl yr Alban, a gweld y gwir werth o fuddsoddi arian, amser ac ymdrech yn awr i annog newid ymddygiad.

“Gadewch i ni wneud datganiadau fel cenedl sydd yn codi proffil CAHY, ac yn normaleiddio’r defnydd ohonynt. Beth am gyflwyno ein priffyrdd trydan ein hunain, fel y gwnaeth yr Alban gyda’u A9 Trydan? Allwn ni gymell y sectorau cyhoeddus a phreifat rhag blaen i fynd yn drydanol?

“Gadewch i ni ddangos fod Cymru’n awyddus i groesawu’r dyfodol.”