Plaid Cymru yn brwydro dros ddyfodol llysoedd ym Môn

Mae ACau a Chynghorwyr Plaid Cymru wedi son am eu gwir bryder am gynlluniau i gau Llys Ynadon Caergybi a Llys Sifil a Theuluol Llangefni.

Byddai’r cynlluniau yn gadael Ynys Môn heb yr un llys, gyda dioddefwyr felly yn gorfod teithio milltiroedd i roi tystiolaeth ac i gael gweld cyfiawnder yn cael ei weinyddu.  Byddai achosion yn cael eu symud i Ganolfan Cyfiawnder Troseddol Caernarfon, sydd mewn rhai achosion yn cymryd dros awr i deithio yno ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Meirion Jones, Trefor Lloyd Hughes & Rhun ap Iorwerth - Llys Ynadon Caergybi / Holyhead Magistrates' Court

Meirion Jones, Trefor Lloyd Hughes & Rhun ap Iorwerth – Llys Ynadon Caergybi

Mae’r cynrychiolwyr Plaid Cymru wedi dweud eu bod yn siomedig iawn ac wedi’u cythruddo gyda’r cynlluniau i gau llysoedd Caergybi a Llangefni, gan adael dim darpariaeth llysoedd ar yr ynys, gan ychwanegu y byddent yn brwydro dros ddyfodol y llysoedd.

Dywedodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth. “Mae’r Llywodraeth yn honni y bydd gan bobl fwy o fynediad at lysoedd trwy dechnoleg ddigidol yn y dyfodol, ond bydd wastad yr angen i nifer o bobl fynychu’r llysoedd, ac mae gwneud i ffwrdd â’r ddarpariaeth yn gyfan gwbl o Ynys Môn yn hollol annerbyniol yn fy marn i.”

Dywedodd Cynghorydd Caergybi Trefor Lloyd Hughes, wrth gyfeirio at Lys Ynadon Caergybi “Nid yw’n gwneud synnwyr.  Mae gan Gaergybi y nifer fwyaf o bobl yn yr ardal ac mae hynny heb gymryd i ystyriaeth y rhai sy’n teithio trwy’r porthladd, yr ail brysuraf ym Mhrydain, ac yn y dyfodol agos efallai bydd 6,000 o weithwyr yn y Wylfa Newydd.”

Dywedodd Cynghorydd Aethwy, cyfreithiwr wedi ymddeol, Meirion Jones “Dylai mynediad at gyfiawnder fod ar gael i bawb.  Yn fy mhrofiad i, yn rhy aml y tlawd neu’r difreintiedig sydd yn gorfod mynychu llysoedd, Llysoedd Sir ac Ynadon, ac nid yw’n debygol fod gan y bobl yma fynediad at gar ac felly’n gorfod dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas fydd yn dioddef, y rhai sydd angen gwasanaethau cyfreithiol sydd heb fynediad atynt.

“Bydd canoli’r system lysoedd yn cael gwared â chyfiawnder lleol.  Mae’n bryder a fydd pobl gogledd Môn yn dal eisiau bod yn Ynadol os oes yn rhaid iddynt deithio i Gaernarfon cyn dechrau eu dyletswyddau yn gwrando ar achosion.”

Ychwanegodd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru Llŷr Gruffydd: Bydd rhannau helaeth o’r rhanbarth yn awr fwy nag awr i ffwrdd o lys. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson am i’r system gyfiawnder troseddol gael ei datganoli fel y gallwn wneud gwell penderfyniadau yma er lles pobl Cymru.”

Maent hefyd yn gofyn am ystyriaeth o ofynion yr Heddlu ac eraill. “Mae angen ystyried agweddau yn ymwneud â dalfeydd yr Heddlu. Mae’r Heddlu o dan bwysau amser ac mae’n gwneud synnwyr bod dalfa ar yr ynys yn hytrach na fod swyddogion yr heddlu yn treulio amser yn eu cerbydau yn mynd â phobl wedi’u harestio i Gaernarfon bob tro.”

Mae’r cynrychiolwyr Plaid Cymru yn paratoi eu cyflwyniad i’r ymgynghoriad ac yn annog y cyhoedd i ymateb hefyd.  Bydd yr ymgynghoriad ar ddyfodol cyfleusterau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr yn dod i ben ar Hydref 8fed.