Neges gan Rhun ap Iorwerth i Pride Cymru

Mae Pride Cymru yn ddathliad gwych o gydraddoldeb ac o bwysleisio’r neges ein bod yn Gymru gynhwysol sy’n credu mewn cariad yn hytrach na chasineb; gwlad sydd yn gwrthwynebu unrhyw fath o homoffobia, deuffobia a thrawsffobia; ac yn wlad sy’n cydnabod a gwerthfawrgoi cyfraniad y gymuned hoyw, deuryw a thrawsrhywiol yng Nghymru.

Dwi’n falch o’r gwaith mae Plaid Cymru wedi bod yn ei wneud ar hyn trwy’r portffolio iechyd – yn galw ar ail-gategoreiddio materion hunaniaeth rhyw ar wahân i iechyd meddwl a’i gwneud yn amod yn ein cytundeb cyllideb gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu clinig hunaniaeth rywedd ar gyfer Cymru i roi’r cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl drawsryweddol.

Ond mae mwy i’w wneud, a rhaid i ni sicrhau fod Brexit a thwf gwleidyddiaeth adain dde ddim yn cael effaith negyddol ar hawliau cydraddoldeb unrhyw garfan o’n cymdeithas.

Mae Pride Cymru yn gyfle da i ddatgan y neges honno, felly pob hwyl i’r digwyddiad eto eleni.