Methiant San Steffan i ariannu Cymru’n ddigonol yn ystod Covid.

Methiant San Steffan i ariannu Cymru’n ddigonol – Rhun ap Iorwerth AS / MS Ynys Môn

Mae Plaid Cymru yn taro nôl ar fethiant San Steffan i ariannu Cymru’n ddigonol yn ystod “storm berffaith” Covid a Chaledi

Wrth ymateb i ddrafft gyllideb 2021 i 2022, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Cyllid Plaid Cymru:

“Mae hwn yn setliad ariannol cwbl annigonol i Gymru gan Lywodraeth y DU. Nid yw mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu’r her o ailadeiladu gwead cyfan bywyd beunyddiol yng nghyfnod y Covid.

“Mae Cymru’n cael ei tharo galetaf gan Covid a chaledi, ac mae ein gallu i fuddsoddi er mwyn tyfu ein heconomi yn cael ei rwystro gan fethiant San Steffan i ariannu Cymru’n ddigonol a’i chap benthyca cosbol.

“Mae rhethreg y Torïaid o lefelu fyny yn cael ei fradychu gan y realiti eu bod yn torri cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru ar adeg o argyfwng economaidd.

“Nid oes unrhyw beth a glywsom gan yr arweinydd Llafur yn ei araith ar ddatganoli heddiw yn awgrymu y byddai economi Cymru yn gwneud yn well hyd yn oed gyda newid yn y llywodraeth yn San Steffan.

“Er ein bod yn croesawu cam bach Gweinidogion Cymru tuag at fynd i’r afael â phroblem gynyddol ail gartrefi o’r diwedd, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn mynd yn llawer pellach ac yn adeiladu deng mil o gartrefi cymdeithasol newydd bob blwyddyn i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng tai.

“Mae adeiladu gwytnwch yn ein heconomi yn golygu gwario’n ddoethach. Byddai ffocws llywodraeth Blaid Cymru ar fuddsoddi mewn seilwaith i greu swyddi â sgiliau uchel, â chyflog da ac ail-gydbwyso’r economi yn rhanbarthol yn gwneud hynny. ”