‘Mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn atal datganoli treth teithwyr awyr – yn erbyn ewyllys y Senedd’ – Rhun ap Iorwerth

Cyn dadl trawsbleidiol heddiw (Mawrth 2 Gorffennaf) ar ddatganoli Treth Teithwyr Awyr (TTA) yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn atal y grym dros drosglwyddo’r dreth i Gymru.

Mae’r ddadl heddiw, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar Lywodraeth y DG i ddatganoli TTA i’r Senedd erbyn 2021.

Ond tynnodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid Rhun ap Iorwerth AC sylw at record bleidleisio wael Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ar ddatganoli TTA, a dywedodd fod yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun yn sefyll ar ffordd datganoli.

Mewn dadl ym Medi 2016 ar fesur Cymru, pleidleisiodd Mr Cairns yn erbyn datganoli TTA. Yn ystod Cwestiynau Cymreig yn gynharach y flwyddyn honno, gwrthododd ymrwymo i ddatganoli TTA, gan ddweud mai mater i Ganghellor y Trysorlys ydoedd.

Cyn hynny, yr oedd wedi pleidleisio yn erbyn datganoli’r cyfrifoldeb dros osod cyfradd TTA mewn dadleuon ar y Mesur Cyllid yn Ebrill 2013 ac Ebrill 2014.

Wrth siarad mewn dadl yn Neuadd Westminster llynedd, dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb ei fod wedi methu â pherswadio’r cyn-brif weinidog David Cameron a’r cyn-ganghellor George Osborne o’r achos dros ddatganoli TTA.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae’r cynnig trawsbleidiol heddiw yn arwydd mai datganoli treth teithwyr awyr yw ewyllys y Senedd, ac yr ydym yn falch o gefnogi’r cynnig.

“Waeth beth ddywed ein Senedd, fodd bynnag, mae’n ymddangos i mi fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn sefyll ar ffordd datganoli yma.

“Dairgwaith, mae Alun Cairns wedi pleidleisio yn erbynd atganoli TTA, a phan gafodd ei holi, fe wnaeth osgoi ymrwymo i’w ddatganoli – gan gelu y tu ôl i’r Trysorlys yn lle hynny.

“Dywedodd ei ragflaenydd fel Ysgrifennydd Cymru ei fod wedi methu a pherswadio David Cameron a George Osborne o’r achos dros ddatganoli TTA.

“Fe ddywedwn i fod record Ysgrifennydd presennol Cymru ar y mater hwn yn arwydd nad yw ef ei hun wedi’i argyhoeddi.

“Dylai’r bleidlais yn y Senedd heddiw fod yn arwydd clir i Mr Cairns: symudwch allan o ffordd datganoli, oherwydd mae ewyllys y Senedd hon yn glir.

“Dylai ganu cloch hefyd i’r Ceidwadwyr – maent yn cefnogi cynnig heddiw, felly hwyrach y dylent gael gair yng nghlust eu Hysgrifennydd Cymru i’w gael i roi’r gorau i’w atal.”