Mae Rhun ap Iorwerth yn cefnogi Ymchwiliad i ofal ysbyty ar gyfer pobl sy’n byw â dementia yng Nghymru

Wythnos diwethaf, fe lansiodd Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Dementia, a Alzheimer Society Cymru, eu Hymchwiliad i ofal ysbyty ar gyfer pobl sy’n byw â dementia yng Nghymru. I gefnogi hyn, mae Rhun ap Iorwerth, AC dros Ynys Môn, sy’n aelod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia, yn cefnogi’r alwad am dystiolaeth gan bobl yn Sir Fôn.

Dangosodd adroddiad ‘Fix Dementia Care’ gan Gymdeithas Alzheimer fod o leiaf 25% o welyau ysbytai’n cael eu defnyddio gan bobl â dementia ac, ar gyfartaledd, fod pobl â dementia mewn ysbyty yn aros yno yn hwy na dwywaith yr amser y mae cleifion eraill sydd dros 65 oed yn ei wneud.

Daw’r Ymchwiliad yn dilyn lansio Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni, a addawodd gymryd camau i wella gofal ysbyty i bobl sy’n byw â dementia, ac mae’n galw am dystiolaeth yn uniongyrchol gan bobl yr effeithir arnynt gan ddementia yng Nghymru, yn ogystal â chan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd yr Ymchwiliad yn ymdrin â:
• Gwybodaeth a dealltwriaeth staff meddygol
• Mynd i’r ysbyty
• Rhyddhau o’r ysbyty
• Ansawdd gofal
Defnyddir tystiolaeth i ffurfio asesiad o effeithiolrwydd argymhellion Llywodraeth Cymru a gynhwysir o fewn y Cynllun ac i weld a ydyw’n gweithio’n ymarferol.

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol yn uno’i aelodau, y mae gan bleidiau gwleidyddol ledled y Cynulliad gynrychiolwyr arno, yn ei ffocws ar ddod i ddeall profiadau pobl yr effeithir arnynt gan ddementia, a’i nod yw gweithio’n gydweithredol i wneud gwelliannau i’r gofal y maent yn ei dderbyn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Pan fo person sy’n byw â dementia yn mynd i’r ysbyty, y mae yn aml ar ei fwyaf diymgeledd.

“Yn fy rôl fel Aelod Cynulliad, rwyf wedi clywed gormod o hanesion am bobl â dementia yn cynhyrfu’n lân ac yn derbyn gofal gwael tra eu bod mewn ysbyty. Nod yr Ymchwiliad hwn yw taflu goleuni ar yr heriau ledled Cymru, a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau.

“Os ydych yn byw â dementia, neu’n gofalu am rywun â dementia, ac rydych wedi cael profiad o ofal ysbyty, yna mae arnom eisiau clywed gennych.”

Mewn grŵp ffocws a drefnwyd gan Gymdeithas Alzheimer Cymru, sy’n darparu’r cymorth ysgrifenyddol i’r Grŵp Trawsbleidiol, fe rannodd pobl sy’n byw â dementia, ac sy’n gofalu am bobl â dementia, rai o’u profiadau:

“Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad hollol drawmatig i fy nhad – dim dealltwriaeth, dim gwybodaeth, dim cymorth. Ni allai gyfathrebu” – Ceri Higgins, gofalwr am berson sy’n byw â dementia – Pontypridd

“Nid oes gan y rhan fwyaf o nyrsys, yn enwedig yn y ward gyffredinol, unrhyw glem. Nid ydynt yn cael yr addysg ynglŷn â sut i ddelio â phobl â dementia” – France Savarimuthu …. person sy’n byw â dementia, Casnewydd.

“Cefais sgwrs yn breifat â nyrs staff ac eglurais fod dementia arno a bod hynny yn ei nodiadau. Nid oedd hi wedi edrych ar y nodiadau. Dywedodd hi: ‘Nid yw’n edrych fel y claf dementia cyffredin i mi’.” – Helen Savarimuthu, gofalwr person sy’n byw â dementia, Casnewydd.

“Mae’n rhaid imi gael llawdriniaeth ar fy nghlun, pa bryd bynnag maent yn dweud. Mae arnaf ofn am fy mywyd mynd i mewn” – Lilly Harris, person sy’n byw â dementia, Pen-y-bont ar Ogwr.

Agorodd yr elusen, ynghyd â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia, yr Ymchwiliad heddiw gydag arolwg ac fe hoffai yn neilltuol glywed gan:

• Pobl yr effeithir arnynt gan ddementia;
• Mudiadau trydydd sector, yn cynnwys y rheiny sy’n cynrychioli gofalwyr;
• Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chyrff proffesiynol;
• Darparwyr gofal iechyd a gwasanaethau.

Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad Alzheimer Society Cymru: “Mae yna 45,000 o bobl â dementia yng Nghymru.

“Mae arnom eisiau clywed gan bobl o bob cwr o Gymru fel y gallwn ddeall maint yr her, a gweithio â Llywodraeth Cymru wrth iddynt weithredu’r Cynllun Gweithredu i sicrhau bod gofal ysbyty ar gyfer pobl sy’n byw â dementia yn enghraifft ddisglair o ragoriaeth.”

Er mwyn cymryd rhan yn yr Ymchwiliad, ysgrifennwch atom, os gwelwch yn dda, yn walescpg@alzheimers.org.uk neu postiwch i Gymdeithas Alzheimer Cymru, 16, Rhodfa Columbus, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4BY.

Gallwch hefyd ateb y cwestiynau drwy’n harolwg ar-lein sydd ar gael yn alzheimers.org.uk.

Os byddai’n amgenach gennych gyflwyno’ch tystiolaeth mewn ffordd wahanol, er enghraifft ar y ffôn, ffoniwch Sophie Douglas ar 029 2047 5580, os gwelwch yn dda.