Mae Llafur yn rheoli Cymru, yn hytrach nag arwain, medd Gweinidog Economi Cysgodol Plaid Cymru

Mae Rhun ap Iorwerth wedi ymosod ar berfformiad Llywodraeth Lafur Cymru, gan ddatgan mai unig ddiddordeb Llafur yw rheoli yn hytrach nag arwain Cymru.

Wrth annerch cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Aberystwyth heddiw, dywedodd AC Ynys Môn: “Y cyfan y mae’r llywodraeth am geisio ei wneud yw rheoli Cymru. Mae byd o wahaniaeth rhwng rheoli ac arwain.

“Amcan Llafur yw cadw Cymru i fynd – sydd efallai’n dderbyniol i rai, ond ddim i fi. Mae Plaid Cymru yn cynnig gweinyddu galluog, wedi ei gyfuno gyda’r weledigaeth a’r ysbrydoliaeth sydd ei angen i godi Cymru allan o’i rhigol bresennol o dan Lafur.

“Wrth i ni ddynesu at etholiad y flwyddyn nesaf mae ymwybyddiaeth gynyddol yng Nghymru, dwi’n credu – gan gynnwys ymhlith pleidleiswyr Llafur – fod angen newid ar Gymru ac ar Lywodraeth Cymru. Ar ôl 16 mlynedd gyda Llafur wrth y llyw, mae angen cyfeiriad newydd.”

Cyfeiriodd Gweinidog Cysgodol yr Economi at wrthwynebiad cyson y Blaid at hoff opsiwn y Llywodraeth ar gyfer yr M4 o gwmpas Casnewydd, sef y Llwybr Du.

“Byddai gwario holl bwerau benthyg Llywodraeth Cymru ar gynllun ffordd o’r ugeinfed ganrif – pan y gellid darparu gynllun gweddus i’r unfed ganrif ar hugain mewn modd cyflymach am efallai hanner y pris – yn fyrbwyll ac yn ddi-weledigaeth.

“Byddai Plaid Cymru yn clustnodi cannoedd o filiynau o bunnoedd ar ddatrys problem yr M4. Ond byddai’n cynllun ni yn gweithio law yn llaw gyda gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus ac yn caniatau gwariant ym mhob rhan o Gymru, gan sicrhau y byddai economiau rhanbarthol y gogledd-orllewin a’r gogledd-ddwyrain yn cael y buddsoddiad mewn cysylltedd sydd ei angen arnynt, yn ogystal a sicrhau gwell trafnidiaeth i bobl a nwyddau yn ardal Casnewydd.”