Mae cam-drin staff lletygarwch yn “gwbl annerbyniol” – meddai AS Ynys Môn.

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi condemnio camdriniaeth staff lletygarwch, yn dilyn cyfres o bryderon sydd wedi cael eu postio ar-lein gan fusnesau lletygarwch lleol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Trodd Dylan’s, cadwyn bwytai yng Ngogledd Cymru, at y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon i fynegi’r trallod a achosir i’w staff yn dilyn cam-drin “geiriol a chorfforol” yn eu tri bwyty yng Ngogledd Cymru.

 

Yn y gorffennol, mae Rhun ap Iorwerth wedi galw am well ymdirinaeth i gam-drin ar staff archfarchnadoedd a manwerthu sydd hefyd wedi crybwyll cwynion tebyg yn ystod y pandemig.

 

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi cynnig ei gefnogaeth i staff y sector sy’n gweithio’n ddiflino o dan reoliadau parhaus Covid-19. Dwedodd ef:

 

“Mae’r cam-drin y mae staff yn Dylan’s a llawer o weithwyr lletygarwch arall wedi gorfod ei wynebu yn ystod y pandemig yn gwbl gywilyddus. Maent yn gweithredu o dan ganllawiau llym i gadw eu cwsmeriaid a nhw’u hunain yn ddiogel, ac nid ydynt yn haeddu dim ond canmoliaeth am hynny – hyd yn oed os yw’n golygu eich bod yn gorfod aros ychydig yn hirach am eich bwyd a’ch diod.

 

“Rydw i wedi gweithio mewn bar fy hun, rydych chi’n gweithio’n galed i geisio rhoi’r gwasanaeth gorau y gallwch chi o dan amgylchiadau arferol, felly nid yw’n llawer gofyn i gwsmeriaid fod yn amyneddgar ac yn gwrtais wrth iddynt barhau i weithredu mewn amgylchiadau sy’n bell o fod yn arferol. Mae’n gwbl annerbyniol bod canran bach o bobl yn teimlo’r angen i gam-drin staff, ar lafar ac yn gorfforol ar amser prysur i’r busnesau hyn, sy’n ceisio ail gydio mewn pethau yn dilyn misoedd o gyfnod clo. Mae’r un peth yn berthnasol i staff sy’n gweithio ym maes manwerthu a’r gweithwyr allweddol hynny sydd wedi darparu gwasanaethau hanfodol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhaid condemnio ymddygiad ymosodol fel hyn pan mae’n codi. ”

 

Ychwanegodd:

 

“Mae’r pandemig wedi bod yn anodd i bawb, ond nid cam-drin staff yw’r ateb byth – rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw, ac maen nhw’n haeddu ein parch.”