“Mae angen mynd a’r maen i’r wal gyda gwaith amddiffyn rhag llifogydd”, meddai AC

Rhun ap Iorwerth yn derbyn ymateb llywodraeth i’w gwestiynau diweddar ar lifogydd Ynys Môn

Mae AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, bellach wedi derbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ei gwestiynau yn y siambr ynglŷn â gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn Ynys Môn ar ôl i lifogydd effeithio ar gymunedau ar yr ynys ym mis Tachwedd.

Dywedodd Rhun ei fod yn falch bod y gwaith hwn bellach yn cael ei flaenoriaethu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond ei fod yn siomedig ei fod o wedi cymryd mwy o lifogydd i’w gwneud iddynt wneud hynny ac mae’n siomedig nad yw’r gwaith ymchwilio wedi dechrau eto.

Wrth ymateb i’r llythyr gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae’n debyg y bydd gwaith ymchwiliol yn ymwneud â chanfod tystiolaeth am yr angen am amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mi faswn i’n dweud ein bod ni wedi gweld tystiolaeth go dda ym mis Tachwedd.

“Mae angen inni fynd a’r maen i’r wal gyda’r gwaith hwn yn Llangefni a rhannau eraill o’r ynys a effeithir gan lifogydd. Mae pob diwrnod ychwanegol o oedi yn ddiwrnod arall o ddioddefwyr llifogydd yn edrych allan o’r ffenestr ac yn meddwl a fydd y glaw nesaf yn arwain at lifogydd eto.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn cefnogi ymdrechion Cyngor Môn i bwyso am weithredu ar unwaith ac o bosibl i gynyddu’r dylanwad uniongyrchol sydd ganddo mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Llangefni.