MAE ANGEN MWY O GYFATHREBU A THRYLOYWDER AR GYNLLUNIAU ÔL-BREXIT CAERGYBI

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru am eglurhad brys ar eu seilwaith Rheoli Ffiniau.

 

Mae Aelod Senedd Cymru Ynys Môn wedi galw ar Lywodraeth Cymru am ddatganiad brys ar eu cynlluniau ar gyfer seilwaith Rheoli Ffiniau ar ôl Brexit yng Nghaergybi, a fydd i fod ar waith i hwyluso gwiriadau ar nwyddau’r UE ar ddiwedd y flwyddyn. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, daeth i’r amlwg bod Cyllid a Thollau EM wedi methu â nodi safle arall ar gyfer lleoliad tollau newydd yng Nghaergybi ac felly wedi bwrw ymlaen â phrynu Roadking Truckstop yn y dref, gan arwain at golli 24 o swyddi.

 

Pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth fod y diffyg tryloywder a chyfathrebu gan Gyllid a Thollau EM ar eu cynlluniau yn pwysleisio pwysigrwydd hysbysu cymuned Caergybi a phobl Ynys Môn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y lleoliad Rheoli Ffiniau newydd.

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth MS:

 

“Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru am ddatganiad brys ar seilwaith ffiniau ym mhorthladd Caergybi. Mae yna rannau o’r isadeiledd sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a rhannau sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Mae angen eglurhad – rwyf wedi cael digon o’r diffyg tryloywder a chyfathrebu gan Gyllid a Thollau EM, ac nid wyf eto wedi derbyn ymateb ganddynt yn dilyn y ddealltwriaeth ddiweddar eu bod wedi prynu’r Truckstop Roadking, lle bydd pobl yn colli eu swyddi.

 

“Rhaid i ni wybod yn union beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn. Pa drafodaethau y mae Gweinidogion wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar swyddi a sicrwydd i bobl sy’n gweithio yn y Roadking nawr, o ran cael swyddi yn y datblygiad tollau newydd? A fyddant yn gallu symud yn syth yno heb seibiant yn eu cyflogaeth? Beth fydd yn digwydd i’r lorïau sydd wedi bod yn parcio yn Roadking? Mae’n adnodd mor bwysig, fel rhan o seilwaith y porthladdoedd.

 

“Rwyf hefyd wedi clywed bod Llywodraeth Cymru yn symud y datblygiad a oedd yn cael ei baratoi ar Barc Cybi. Mae angen i gymuned Caergybi a phobl Ynys Môn wybod beth sy’n digwydd ar frys. ”

 

Ymatebodd Lesley Griffiths AS, Trefnydd, i ddatganiad Rhun ap Iorwerth yn Cyhoeddiad Busnes a Datganiad Llywodraeth Cymru, a dywedodd:

 

“Rwy’n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi hysbysu Llywodraeth Cymru yn hwyr iawn mewn perthynas â’r seilwaith ffiniau y bydd ei angen, yng Nghaergybi ac, yn amlwg, yn ne-orllewin Cymru. Mae’r Gweinidog Economi yn arwain ar y maes hwn, a gwn ei fod ar hyn o bryd yn edrych ar ychydig o gyngor ynglŷn â hyn. Gofynnaf iddo gyflwyno datganiad ysgrifenedig pan fydd ganddo fwy o wybodaeth i’w rannu gyda’r Aelodau. “