Mae angen cefnogaeth ariannol ar Gyrff Llywodraethu Chwaraeon i achub ein clybiau cymunedol, yn rhybuddio Plaid Cymru

Mae llawer wedi croesawu ailgychwyn pêl-droed ar lefel genedlaethol, ond heb gefnogaeth bellach i glybiau pêl-droed ar lefel llawr gwlad, mae llawer yn ofni am ddyfodol y gêm.

Mae Gweinidog Cysgodol Iechyd a Chyllid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi mynegi pryder ynghylch yr “effeithiau canlyniadol” pe bai clybiau lleol yn dechrau cau.

Er bod pêl-droedwyr yn haenau uchaf y gêm wedi cael chwarae’n gystadleuol, nid yw clybiau yn yr haenau isaf yn gallu gwneud hynny eto, ac mae rheolwr tîm Tref Llangefni wedi mynegi pryder am yr “effaith y bydd yr absenoldeb hirfaith hwn o chwarae’n gystadleuol” yn ei gael ar ei chwaraewyr.

Mae rheolwr tîm cyntaf Hotspur Caergybi yn adrodd bod plant lleol wedi “colli’r awydd oedd ganddyn nhw cyn y cyfnod cloi i fod yn egnïol” ac yn poeni am adran iau “ffyniannus” y clwb.

Dywed Mr ap Iorwerth y dylai Llywodraeth Cymru, wrth wrando ar yr alwad am fwy o arian, sicrhau bod hyn ar gael i gorff llywodraethu pêl-droed yng Nghymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Wrth ddosbarthu’r arian trwy’r corff llywodraethu cenedlaethol, byddant yn gallu teilwra cefnogaeth ar draws clybiau neu gynghreiriau fel y gwelant yn dda, heb i glybiau unigol orfod cystadlu am arian yn erbyn cant o glybiau eraill ar draws llawer o wahanol chwaraeon.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd a Chyllid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae cynaliadwyedd clybiau chwaraeon ledled Cymru yn bryder gwirioneddol, a dim ond un enghraifft yw pêl-droed.

“Mae clybiau pêl-droed lleol yn dweud wrtha i eu bod nhw’n mynd i ddiflannu heb gefnogaeth ariannol. Bydd yr effeithiau canlyniadol yn gwneud Cymru yn llai egnïol, yn llai iach a gyda llai o gyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae tîm chwaraeon lleol yn fwy na’r gamp ei hun – mae’n ymwneud â dod â chymunedau ynghyd, y buddion iechyd ac, wrth gwrs, bwydo talent i haenau uwch. Heb i glybiau symud ymlaen ar lawr gwlad, yn y pen draw bydd y gêm genedlaethol yn dioddef.

“Mae’n bwysig bod cymorth ariannol ar gael i gyrff llywodraethu a all wedyn benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio’r arian.”

Dywedodd rheolwr tîm dynion Tref Llangefni, Chris Roberts:

“Fel clwb, rydyn ni, fel cymaint o rai eraill, mewn limbo ar hyn o bryd gan nad oes gennym ni syniad pryd y byddwn ni’n cael chwarae pêl-droed cystadleuol eto. Mae dwylo CBDC wedi’u clymu, a dweud y gwir, oherwydd ni allant roi’r ‘oce’ inni chwarae gemau cystadleuol nes bod Llywodraeth Cymru yn cwrdd â nhw hanner ffordd ac yn rhoi’r amodau yn eu lle i ganiatáu i hynny ddigwydd.

“Rwy’n poeni am yr effaith y bydd yr absenoldeb hirfaith hwn o chwarae’n gystadleuol yn ei gael nid yn unig ar iechyd corfforol a meddyliol fy chwaraewyr a staff, ond ar gyfer clybiau ledled y wlad, a chyfranogiad cyffredinol mewn gweithgaredd corfforol hefyd, sydd mor bwysig i’n iechyd a lles, yn enwedig ar adeg fel hon.

“Mae chwarae chwaraeon cystadleuol wedi bod yn rhan enfawr o’n bywydau ers pan oeddem yn blant ifanc, felly mae cael hynny wedi ei dynnu oddi wrthym ar adeg lle mae ei angen arnom fwyaf yn peri gofid mawr a gobeithio y gellir dod i benderfyniad yn fuan er mwyn caniatáu inni wneud hynny neu bydd chwarae neu glybiau a chwaraewyr yn diflannu’n gyflym, nid yn unig yn effeithio arnom ni nawr, ond bechgyn a merched ifanc sydd eisiau chwarae pêl-droed yn y dyfodol hefyd. ”

Dywedodd rheolwr tîm cyntaf Hotspur Caergybi, Darren Garmey:

“Mae angen i ni weld cynllun gweithredu clir ar gyfer dychwelyd chwaraeon cystadleuol gan Lywodraeth Cymru, a bod y gefnogaeth ariannol yno i’w alluogi i ddigwydd os na allwn gael cefnogwyr am y tro. Mae lles corfforol a meddyliol fy chwaraewyr a staff yn dioddef oherwydd na allwn chwarae gemau cystadleuol, ac nid oes unrhyw gynllun y gallwn ei weld i ganiatáu inni ddychwelyd yn fuan.

“Mae gennym ni adran iau lewyrchus yn y clwb, ond hyd yn oed yno rydw i wedi gweld sut mae ein chwaraewyr wedi bod ers misoedd o ddim gemau cystadleuol – plant ifanc sydd wedi colli’r awydd oedd ganddyn nhw cyn y cyfnod cloi i fod yn egnïol ac i gadw’n iach trwy chwarae chwaraeon, boed yn bêl-droed ai peidio.

“I’n chwaraewyr hŷn, mae’r effeithiau hynny hyd yn oed yn fwy, gan fod llawer yn teimlo pwysau darparu ar gyfer eu teuluoedd drwy’r pandemig ar eu hysgwyddau hefyd ac rwy’n poeni’n fawr am yr effaith mae beidio chwarae’n gystadleuol yn cymryd ar bawb yn ein cymuned chwaraeon . Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa hon. Mae angen iddyn nhw weithredu i’w ddatrys a gwneud hynny’n gyflym.”