Blwyddyn naid yn lwcus i feithrinfa Llanfairpwll

Ar Chwefror 29ain 2012, gwireddodd Sami Owen ei breuddwyd o agor meithrinfa newydd yn Star. Pedair blynedd, a blwyddyn naid arall, yn ddiweddarach, cymrodd ei busnes gam mawr ymlaen wrth symud i safle newydd yn Llanfairpwllgwyngyll.

Bu torf fawr yn cymeradwyo wrth i’r rhuban ar ddrws ffrynt newydd Meithrinfa Bach Hapus gael ei dorri gan AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth, wedi’i helpu gan fab Sami, Finlay.

Dywedodd Sami Owen: “Cafodd fy Meithrinfa yn Star ei gymeradwyo pedair blynedd yn ôl i’r diwrnod yr ydym yn agor yn Llanfairpwll – y 29ain o Chwefror – felly mae blwyddyn naid wedi bod yn arbennig iawn ddwywaith yn olynol!

“Mae’r feithrinfa wedi fy ngalluogi i fyw fy mreuddwyd o allu gofalu am a chefnogi plant ifanc drwy eu blynyddoedd cynnar, a chreu awyrgylch gartrefol y maent wedi gallu ffynnu ynddo. Mae gennyf dîm anhygoel o ferched sy’n gofalu am y plant fel, ac yn darparu’r cariad, y gofal a’r sylw a gânt yn y cartref.”

Yn y feithrinfa, bydd hyd at 34 o blant yn cael gofal mewn amgylchedd gwych gyda thema jyngl, sydd wedi cael ei greu gan Sami a’i gŵr.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: “Mae Sami wedi gwneud gwaith ardderchog, ac mae’r gwen ar wynebau pawb – o’r staff i’r rhieni a’u plant – yn dweud y cyfan. Mae Meithrinfa Bach Hapus yn darparu gwasanaeth pwysig i’r ardal, a dymunaf y gorau iddynt yn eu cartref newydd.”