Lleisiwch eich barn i achub gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd

Dywed AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth y dylai pobl Môn ei gwneud hi’n glir iawn fod israddio gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd yn annerbyniol.

mamolaeth

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynigion a allai weld y gwasanaeth yn cael ei israddio i wasanaeth wedi’i arwain gan fydwragedd gyda meddygon arbenigol yn cael eu symud i Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Mae’r tîm ardderchog o fydwragedd, nyrsys a doctoriaid yn Ysbyty Gwynedd yn darparu gwasanaeth mamolaeth hanfodol i bobol Ynys Môn.  Nid yw’n dderbyniol cynnig israddio’r gwasanaethau.”

Mae tua 2500 o fabanod yn cael eu geni yn Ysbyty Gwynedd bob blwyddyn.  Byddai israddio’r gwasanaeth yn anochel yn golygu fod mwy o famau yn gorfod teithio i Ysbyty Glan Clwyd i roi genedigaeth neu i dderbyn gofal arall.

Ychwanegodd yr AC Plaid Cymru: “Rydw i wedi siarad gydag uwch weithwyr iechyd proffesiynol yn Ysbyty Gwynedd, sydd yn rhybuddio y byddai symud ein capasiti obstetreg arbenigol yn anochel yn arwain at erydiad galluoedd meddygaeth brys Ysbyty Gwynedd.

“Gofynnaf i bawb leisio eu barn, unai trwy wefan y Bwrdd Iechyd www.wales.nhs.uk/NWMaternity, neu trwy fynychu cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghaergybi neu Fangor dros yr wythnosau nesaf.”

Bydd cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn Neuadd Dref Caergybi am 1:00pm a 5:30pm ar ddydd Mawrth, Medi 15fed; ac yng Nghlwb Pêl-droed Bangor am 1:00pm a 5:30pm ar ddydd Llun, Medi 28ain.