Holi’r Prif Weinidog am waith ar yr A55

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth godi’r gwaith traffig ar yr A55 gyda’r Prif Weinidog yn y Senedd ddoe:

“Ni allaf orbwysleisio’r rhwystredigaeth sy’n cael ei theimlo gan ddefnyddwyr yr A55, ac mae profiad yn dweud wrthym ni pan fydd un darn o waith yn cael ei gwblhau ar y ffordd fod darn arall o waith ffordd ar fin dechrau. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â fi y gallai’r Llywodraeth fod yn llawer iawn mwy rhagweithiol yn y ffordd y maen nhw yn hysbysu pobl sy’n defnyddio’r A55 ynglŷn â gwaith sydd yn digwydd, ac sydd yn mynd i fod yn digwydd yn y dyfodol—yr amseru ag ati; yr amserlenni—fel bod pobl, drwy gyfathrebu, yn gallu cael gwell darlun o’r hyn sy’n mynd i fod yn digwydd ar y ffordd i’r dyfodol?”