“Gyda mwy o ryddid rhaid cael myfyrdod” – Rhun ap Iorwerth yn galw am sicrwydd bod gwersi wedi cael eu dysgu gan lywodraeth

Rhun ap Iorwerth AS yn galw am “fwy o wyliadwriaeth” nawr, gyda symudiad tuag at ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar Gymru

Cyn y cadarnhad disgwyliedig y bydd cyfyngiadau’n cael eu codi ymhellach, mae Rhun ap Iorwerth yn galw am fwy o ffocws ar fonitro lledaeniad y feirws gan fod mwy o ryddid yn cael ei adfer erbyn hyn.

Dywed fod yn rhaid i’r gwyliadwriaeth ychwanegol hon gyd-fynd â sicrwydd bod gwersi wedi’u dysgu o’r pandemig.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd Cymru’n symud i ‘Lefel Rhybudd 0’ o ddydd Sadwrn 7 Awst.

Mae Rhun ap Iorwerth AS, sy’n llefarydd Iechyd a Gofal i Blaid Cymru, yn cefnogi’r symudiad cyn belled â bod y Llywodraeth yn gallu darparu “gwyliadwriaeth hyd yn oed yn fwy caeth” a’u bod yn “barod i gymryd cam yn ôl os oes angen.”

Ond mae Mr ap Iorwerth yn dweud mai “nawr yw’r amser iawn” i gael adolygiad manwl o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r pandemig, tra bod digwyddiadau’r 18 mis diwethaf yn dal yn ffres ym meddyliau Cymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS,

“Codi cyfyngiadau yw lle’r ydym i gyd am fynd, ar ôl 18 mis sydd wedi gosod rhwystrau arnom i gyd.

“Mae’n rhaid monitro’r sefyllfa nawr gyda gwyliadwriaeth hyd yn oed yn fwy llym, ac os bydd adwaith andwyol o ran nifer yr achosion a derbyniadau i’r ysbyty oherwydd COVID, rhaid i’r Llywodraeth fod yn barod i gymryd cam yn ôl os oes angen.

“Mae angen sicrwydd arnom hefyd gan y llywodraeth bod gwersi wedi’u dysgu o’r cyfnod yma, a dyna pam mae angen ei hymchwiliad cyhoeddus ei hun ar Gymru i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r pandemig.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd – da a drwg. Wrth i Gymru ennill mwy o ryddid, dyma’r adeg iawn i fyfyrio ar yr hyn a wnaethom yn iawn, a’r hyn y mae’n rhaid inni ei newid, er mwyn sicrhau na fydd yn rhaid inni byth ailadrodd y 18 mis diwethaf.”