Grantiau i helpu’r amgylchedd a’r gymuned leol

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi croesawu’r newyddion bod dau brosiect cymunedol lleol wedi ennill grant ‘Creu Eich Lle’ gan Gronfa’r Loteri Fawr.

Mae Menter Môn wedi ennill grant o £15,000 i hyrwyddo stiwardiaeth gymunedol o gynefinoedd naturiol a safleoedd treftadaeth lleol. Mae Grŵp Coetir Cymunedol Llyn parc mawr wedi ennill £20,000 i drawsnewid a chadw ardal o Goedwig Niwbwrch I greu lle ar gyfer bywyd gwyllt, natur a lles y gymuned leol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Rydw i’n falch i glywed bod dau brosiect lleol wedi ennill y grantiau yma, gan roi’r cyfle iddynt ddatblygu. Bydd y ddau brosiect yn fuddiol ar gyfer yr amgylchedd ac ar gyfer y gymuned leol.

“Rydw i’n llongyfarch pawb sydd wedi gweithio i sicrhau’r grantiau yma, ac yn dymuno’n dda i’r ddau brosiect ar gyfer y dyfodol.”