Geidiaid Amlwch yn annog Addewid Plastig AC

Wedi i 1st Amlwch Guides gysylltu gyda’u Haelod Cynulliad lleol Rhun ap Iorwerth, yn gofyn iddo hyrwyddo eu hymgyrch Addewid Plastig, fe wnaeth Rhun ddatganiad 90 eiliad yn y Senedd yr wythnos hon i ganmol eu hymgyrch ac i wneud addewid plastig ei hun.

Fel rhan o’u hymgyrch Merched y Dyfodol, gofynnodd Girlguiding i filoedd o ferched am y pynciau oedd yn bwysig iddyn nhw, ac roedd yr amgylchedd yn un o’r 5 uchaf.

O ganlyniad, mae 1st Amlwch Guides wedi gwneud addewid i daclo llygredd plastig er mwyn amddiffyn y blaned, ac fe wnaethant gysylltu gyda Rhun i rannu eu haddewidion plastig gyda fo.

Fe wnaeth Rhun rannu’r addewidion yma gyda ACau eraill yr wythnos hon, ac ychwanegu ei addewid ei hunan i’r rhestr.

Yn siarad yn y Senedd ddoe, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae aelodau o Geidiaid Amlwch wedi ysgrifennu ataf i rannu eu haddewidion plastig. Maent yn cynnwys addewidion i ddefnyddio gwellt metel neu bapur, i ailddefnyddio poteli plastig, ac i ddal eu gafael ar blastig nes iddynt ddod o hyd i fin ailgylchu. Bydd eraill yn prynu bwyd mewn cynwysyddion di-blastig, yn rhoi’r gorau i ddefnyddio haenen lynu, neu, ac rwy’n dyfynnu, ‘Dweud wrth mam am beidio â phrynu bagiau plastig.’ Maent yn gofyn i ni fel Aelodau Cynulliad i ymuno â hwy a bod yn amddiffynwyr y blaned, drwy wneud addewidion plastig ein hunain.

“Byddaf yn rhannu fy addewidion ar gyfryngau cymdeithasol. Byddaf yn addo ceisio ailgylchu’n dda bob amser a pharhau i gefnogi ymgyrchwyr dros gynllun dychwelyd blaendal—rhywbeth y mae’r Geidiaid yn cytuno sy’n syniad da iawn. Ac rwyf fi a Geidiaid Amlwch yn gwahodd pob un ohonoch i wneud eich addewidion plastig eich hunain drwy ddefnyddio’r hashnod #AddewidPlastig.

“Drwy weithio efo’n gilydd, mi allwn ni wneud gwahaniaeth go iawn. A gadewch inni gymryd arweiniad gan ein pobl ifanc, achos eu dyfodol nhw ydy o.”