GALW AM STRATEGAETH CANSER CYMRU-GYFAN WRTH I AMSEROEDD AROS GYRRAEDD Y NIFEROEDD UCHAF ERIOED

Plaid Cymru yn galw am ganolfannau diagnostig cynnar a diwedd ar loteri cod post

Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth canser i Gymru gyfan i fynd i’r afael â’r rhestrau aros cynyddol ar gyfer triniaeth a diagnosis

Gwnaed yr alwad heddiw (4 Chwefror) ar Ddiwrnod Canser y Byd.

Dywedodd llefarydd dros iechyd a gofal cymdeithasol, Rhun ap Iorwerth AS, fod angen cynllun hirdymor ar Gymru ar frys i fynd i’r afael ag ôl-groniad a phrinder staff fel rhan o “strategaeth ganser Cymru gyfan i flaenoriaethu diagnosis cynnar, cydnabod y miloedd sydd heb ddiagnosis ar hyn o bryd a sicrhau gofal digonol i’r cleifion hynny mewn cyfnodau diweddarach o ganser y bydd angen triniaethau mwy cymhleth arnynt”.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, sydd wedi ymgyrchu ers amser maith dros ganolfannau diagnostig ledled Cymru i sicrhau nad yw cleifion canser yn destun loteri cod post, y dylai sicrhau diagnosis cynnar ac y dylai bylchau yn y gweithlu fod yn flaenoriaeth mewn unrhyw strategaeth canser.

Mae’r mater yn agos iawn at galon Mr ap Gwynfor ar ôl i’w dad, Guto, gael diagnosis o ganser yn 2019 ac mae wedi bod yn derbyn triniaeth drwy gydol y pandemig.

Dywedodd Mr ap Gwynfor fod  gan Gymru fylchau sylweddol yn y gweithlu sy’n diagnosio ac yn trin canser hyd yn oed cyn y pandemig. Mae hyn yn gwneud strategaeth canser Cymru gyfan yn bwysicach fyth.

Bu dwy flynedd ers i Gymru gael Strategaeth Canser – mae hyn  yn rhoi Cymru’n groes i argymhellion  Sefydliad Iechyd y Byd, sy’n nodi y  dylai pob gwlad gael un yn ei lle.

Mae tua 20,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser ac amcangyfrifir bod 170,000 o bobl yn byw gyda’r clefyd.

Dywedodd llefarydd dros iechyd a gofal cymdeithasol Rhun ap Iorwerth AS,

Mae effaith y pandemig ar driniaeth a diagnosis canser wedi bod yn niweidiol, ac mae’n parhau i fod yn niweidiol.

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun ar frys i fynd i’r afael â’r ôl-groniad a’r prinder staff a grëwyd gan y pandemig. Dylai hyn fod yn rhan o strategaeth canser ehangach i Gymru gyfan, i flaenoriaethu diagnosis cynnar, cydnabod y miloedd sydd heb ddiagnosis ar hyn o bryd a sicrhau gofal digonol i’r cleifion hynny mewn camau diweddarach o ganser y bydd angen triniaethau mwy cymhleth arnynt.

 

Nid dyma’r amser i fod heb strategaeth canser. Mae Cymru ymhlith y canlyniadau canser gwaethaf yn Ewrop, a bydd hyn ond yn gwaethygu os na chymerir camau.

 

Yn y cyfamser, unrhyw un sydd ag unrhyw bryder, unrhyw symptom – plîs, plîs gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu.”

 

Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor MS,

 

Mae diagnosis cynnar yn allweddol i roi terfyn ar y gostyngiad mewn cyfraddau goroesi canser yng Nghymru.

 

Rhaid i unrhyw strategaeth canser gynnwys cynlluniau hirdymor i sicrhau diagnosis cynnar. Mae datblygu Canolfannau Diagnostig Cyflym yn ddatblygiad i’w groesawu, ond er mwyn inni fynd i’r afael â chanser mewn ffordd ystyrlon mae angen inni lenwi’r bylchau enfawr yn y gweithlu.

 

Rhaid i flaenoriaeth yn y strategaeth i drin a churo canser adlewyrchu sut y caiff y canolfannau diagnostig cyflym hyn eu staffio, a sut y sicrheir recriwtio yn gyffredinol mewn diagnosis a thriniaeth canser yn y tymor hir.

 

Nid yw canser yn poeni am ddaearyddiaeth, ond mae cleifion yn poeni. Maent yn haeddu gwasanaeth cydradd, lle bynnag y maent yn byw.

 

“Mae gan yr Alban a Lloegr Strategaethau Canser, sy’n cyd-fynd â’u Byrddau Iechyd. Mae’r strategaeth hon yn rhoi targedau clir iddynt ac yn sicrhau bod ganddynt ffocws clir. Ond nid oes gan Gymru’r strategaeth gynhwysfawr honno, yn hytrach mae gennym gymysgedd o raglenni a fframweithiau sydd wedi’u datgysylltu. Os ydym o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â Chanser, yna mae angen strategaeth Canser arnom.”