Fideo: Rhowch flaenoriaeth i ardaloedd heb fand eang, medd AC Môn

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, ddoe yn cwestiynau Lywodraeth Cymru am gynllun olynol Cyflymu Cymru ar ran cymunedau ar Ynys Môn sy’n dal i aros am gysylltiad band eang cyflym.

Ym mis Ebrill eleni, gwnaeth AC Ynys Môn gais i etholwyr ar facebook ac yn y papurau lleol i roi gwybod iddo am eu profiad o fand eang, ac yn benodol lle mae problemau’n dal i fodoli ar ôl i’r cynllun Cyflymu Cymru ddod i ben.

Roedd yr ymateb a gafodd yn dangos er mai’r broblem mewn rhai ardaloedd oedd fod pobl yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym ond nad oeddent yn ymwybodol o hynny, mewn ardaloedd eraill, mae problemau band eang yn dal i fodoli gyda rhywfaint o waith wedi’i wneud, ond gyda rhai eiddo wedi colli allan o drwch blewyn.

Felly, defnyddiodd Rhun sesiwn gwestiynau yn y Cynulliad i Ysgrifennydd perthnasol y Cabinet i ofyn iddi sicrhau y byddai’r ardaloedd hyn yn cael blaenoriaeth o dan y cynllun olynol i Cyflymu Cymru.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rydw i wedi cysylltu â chi fel Gweinidog yn y gorffennol yn adrodd am broblemau efo band llydan yn Ynys Môn. Mi wnes i apêl yn ôl ym mis Ebrill am y wybodaeth ddiweddaraf.  Mae’n amlwg bod yna nifer o ardaloedd sydd wedi colli allan o drwch blewyn, o bosibl, ar y rhaglen Cyflymu Cymru—mae ardaloedd Llanddona, Llansadwrn, Brynsiencyn, Cefniwrch a Rhyd-wyn yn rhai sydd wedi amlygu’u hunain.

“Yn yr ardaloedd hynny, mi oedd gwaith wedi dechrau ar baratoi ar gyfer cysylltiad. Yn amlwg, mi oedd yna siom fawr o weld y rhaglen yn dod i ben heb i’r gwaith gael ei gwblhau. A ydych chi mewn sefyllfa i allu rhoi sicrwydd i’r etholwyr yma y byddan nhw’n flaenoriaeth—hynny yw, y bydd cwblhau gwaith a oedd wedi’i ddechrau yn flaenoriaeth o dan y rhaglen newydd, pan ddaw honno?”

Yn ei hymateb, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet fod hynny’n fater o drafod rhwng Llywodraeth Cymru a BT, ond eu bod nhw dal yng nghanol y broses gaffael ar hyn o bryd ar gyfer y rhaglen newydd.