Fideo: Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru

Fy Nadl Fer yn y Senedd yr wythnos hon: Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru

Mae ardal forol Cymru’n cynnwys adnoddau naturiol gwerthfawr ac amrywiol a all gynnig cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sylweddol ac sy’n cyfrannu at les y genedl a lles cenedlaethau’r dyfodol. Ond, mewn difrif, dydym ni’n gwybod fawr ddim manylion am yr adnoddau yna. Mae’n rhyfeddol cyn lleied o’n gwely môr ni sydd wedi cael ei fapio o ystyried manylder mapio’r tir. Ac mae mapio o’r math yma’n flaenoriaeth ar lefel Undeb Ewropeaidd ers tro, ond nid oes yna gynllun wedi’i gydlynu ar gyfer y Deyrnas Unedig—dim cynllun ar gyfer Cymru. Mae’r broses o gasglu data wedi bod yn ad hoc. Nid ydy o wedi cael ei gydlynu’n iawn, ac mae’n rhaid i hynny newid. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r adnodd sydd ei angen i wneud y gwaith: y Prince Madog.