Fideo: Dal i wthio am Ganolfan Addysg Feddygol yn y gogledd

Rydw i’n dal i wthio am Ganolfan Addysg Feddygol yn y gogledd – buasai’n llesol i gleifion, ac yn fuddsoddiad ar gyfer yr hir dymor. Dyma fy nghwestiwn i i’r Ysgrifennydd Cyllid yr wythnos hon am egwyddorion buddsoddi i arbed:

Rhun ap Iorwerth
Mi hoffwn i awgrymu wrth yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai buddsoddi mewn datblygu addysg feddygol israddedig gynhwysfawr yn y gogledd—hynny ydy, yn cynnwys myfyrwyr blwyddyn gyntaf, a reit trwy eu hastudiaethau—yn enghraifft wych o weithredu egwyddorion buddsoddi i arbed. Rydym ni’n gwybod bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwario £80 miliwn ar locyms yn y tair blynedd diwethaf. Rhywsut, mae’n rhaid torri’r cylch dieflig yma, ac mi fyddai buddsoddi, rydw i’n meddwl, mewn hyfforddi meddygon yn lleol yn gyfraniad mawr at hynny. Nid ysgol feddygol lawn annibynnol yr ydym ni’n gofyn amdani hi, gyda llaw; efallai y daw hynny maes o law. Ond, tra bod yna bob mathau o resymau bod angen y datblygiad yma, er bod y Llywodraeth ddim fel petaen nhw’n gweld hynny hyd yn hyn—i’r Ysgrifennydd cyllid yn benodol, rydw i’n apelio am iddo fo gydnabod a gweld hyn fel enghraifft o fuddsoddiad synhwyrol rŵan er mwyn creu buddiannau hirdymor.

Mark Drakeford
Wel, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, rydw i’n clywed yr achos mae’r Aelod yn ei wneud, ac rydw i’n cydnabod beth mae e’n ei ddweud am sut mae’r arian yn cael ei wario yn y gogledd ar hyn o bryd. Bydd e’n awyddus i wybod, rydw i’n siŵr, fy mod i wedi cael cyfarfod y bore yma gyda’r Ysgrifennydd gyda chyfrifoldeb dros iechyd i drafod y datblygiadau yn y gogledd.