Ewch i gael eich brechlyn ffliw!

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn annog pobl 65 oed neu drosodd, gofalwyr, menywod beichiog a’r rheini â rhai afiechydon cronig neu dymor hir i gael y brechlyn ffliw am ddim i amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas.

Mae ffliw yn salwch anadlol, sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybrau anadlu, ac mae’n ganlyniad haint a achosir gan firws ffliw. Gan fod y ffliw yn cylchredeg bob blwyddyn yn y DU yn ystod misoedd y gaeaf (Hydref i Ebrill yn gyffredinol), fe’i gelwir weithiau’n ffliw tymhorol ac mae’n deillio o newidiadau bach i’r firws o’r flwyddyn flaenorol sy’n golygu efallai na fydd rhai pobl sy’n dod ar draws y firws newydd bellach yn gwbl imiwn.

Wrth siarad ar ôl derbyn ei bigiad ffliw gan Fferyllfeydd Cymunedol Cymru heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Rwy’n annog y rhai sydd mewn grwpiau sydd mewn perygl i wneud apwyntiad gyda’u meddyg teulu lleol neu fynd i’w fferyllfa gymunedol a chael y brechlyn ffliw am ddim. Mae’n cymryd munud, yn para blwyddyn a gallai arbed bywyd. ”

Mae brechlyn yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob tymor sy’n cael ei gynnig am ddim i rai plant, pawb 65 oed a hŷn, pobl mewn rhai grwpiau ‘mewn perygl’ sy’n fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau o ganlyniad i gael ffliw a hefyd y rhai sy’n gofalu am bobl mewn mwy o berygl.

I gael mwy o wybodaeth am amddiffyn eich hun rhag ffliw, ewch i https://phw.nhs.wales/services-and-teams/beat-flu/