AS YNYS MÔN YN GWNEUD YR ACHOS DROS GYFLEOEDD SWYDDI GWYRDD NEWYDD YM MHORTHLADD CAERGYBI

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi galw ar Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU i ddatblygu Caergybi fel y porthladd gwasanaethu ar gyfer prosiect gwynt ynni gwyrdd ar raddfa fawr.

 

Yn dilyn cyfarfod diweddar gyda BP ac Energie Baden-Württemberg AG (EnBW) ynghylch eu prosiect gwynt ar Môr Iwerddon – ffermydd gwynt Mona a Morgan, mae Rhun ap Iorwerth AS wedi galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i sicrhau mai Caergybi fydd y porthladd i wasanaethu fferm wynt Mona.

 

Pan fydd wedi’i chwblhau, bydd gan Morgan a Mona y potensial i allu cynhyrchu 3GW o bŵer, sy’n ddigonol i bweru’r  oddeutu 3.4 miliwn o aelwydydd ar draws y DU â thrydan glân.

 

Anogodd Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gefnogi’r datblygiad ym mhorthladd Caergybi, gan bwysleisio y byddai’r prosiect hwnnw o fudd economaidd mawr i’r economi leol a Chymru.

 

Er mwyn hwyluso’r gwaith gwasanaethu yng Nghaergybi, pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth AS bwysigrwydd buddsoddi yn y porthladd, gan nodi er bod BP wedi cadarnhau na fyddai eu datblygiad yn dibynnu ar statws porthladd rhydd i gyflawni’r prosiect, maent wedi mynegi y gallai fod o fudd. Mewn ymateb i’w gwestiwn, mynegodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi ei siom gyda’r diffyg eglurder presennol a gynigir gan Lywodraeth y DU ar eu cynigion porthladdoedd rhydd ledled y DU. Cytunodd â Rhun ap Iorwerth bod angen cefnogaeth a buddsoddiad yn y porthladd o bot cyllido £160m Llywodraeth y DU i ddatblygu porthladdoedd ar gyfer prosiectau ynni.

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

 

“Mae cyfle economaidd real iawn i Ynys Môn o gynnig y datblygiadau BP ym môr Iwerddon – ffermydd gwynt Mona a Morgan. Rwy’n awyddus iawn i sicrhau mai Caergybi fydd y porthladd i wasanaethu datblygiad Mona. Byddai’n creu swyddi ac yn darparu sicrwydd tymor hir. Ond mae angen buddsoddiad yn y porthladd arnom hefyd er mwyn i hynny ddigwydd. Mae BP wedi dweud er nad oes rhaid iddynt fod â statws porthladd rhydd i gyflawni’r prosiect, ond pe gallai fod yn ddefnyddiol, byddai’n dda gweld Llywodraeth y DU yn darparu’r un cyllid i borthladdoedd rhydd yng Nghymru ag y maent yn ei roi i’r rhai yn Lloegr.

 

“Yn bwysicach fyth, mae angen i Lywodraeth y DU gyfrannu o’r pot £160 miliwn sydd ganddyn nhw i ddatblygu porthladdoedd ar gyfer prosiectau ynni. Rwy’n falch bod y Gweinidog wedi cytuno â mi y dylai cyfran deg o’r cyllid hwnnw fynd i Gaergybi, a byddaf yn parhau i ddadlau dros gael hynny i ddigwydd.”