Aelod Cynulliad Ynys Môn yn llongyfarch Beicwyr Elusen Asia i Ynys Môn.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi llongyfarch tri o’i etholwyr sydd wedi goresgyn taith feicio 5,500 milltir o Istanbul i Gaergybi er budd elusen.

Mae Andy Fowell, Steve MacVicar a Roger Thomas wedi cwblhau taith anhygoel yr wythnos hon, gan feicio o Istanbul drwy Ddwyrain Ewrop ac ar draws y DU i Gaergybi ac wedi casglu dros £13,000 ar gyfer Cymdeithas Clefyd Modur Niwron a Hosbis Dewi Sant.

Wrth iddynt reidio mewn i Gaergybi ar y 23ain o Fai ar ôl wyth wythnos i ffwrdd o adref a miloedd o filltiroedd wedi eu cyflawni ac arian wedi ei gasglu at achosion da, diolchodd Rhun ap Iorwerth iddynt am eu hymdrechion gwych.

Dywedodd AC Ynys Môn:

“Rwy’n falch o dynnu sylw at daith feicio elusennol anhygoel, sydd bellach yn dod i ben, ac i longyfarch y tri etholwr sydd wedi bod yn beicio yn ddygn ers diwedd mis Mawrth.

“Aeth Andy Fowell, Steve MacVicar a Roger Thomas ar y beic yn Istanbul ar yr 28ain o Fawrth, ac ers hynny maen nhw wedi beicio 65 milltir y dydd ar gyfartaledd, sydd yn 5,500 milltir i gyd, dros bedwar mynydd ar yr hyn a elwir yn Llen Haearn Llwybr Beicio.

“Fe orffennwyd y daith yng Nghaergybi heddiw (dydd Iau) ac roeddwn i’n gobeithio reidio’r rhan olaf gyda nhw. Mae busnes y Cynulliad yn golygu na fyddaf yn gallu, ond rwy’n falch o allu ymrwymo i’r weithred yma sydd yn llawer llai egnïol, drwy anfon y neges yma o gefnogaeth.

“Maen nhw wedi codi dros £13,000 i ddwy elusen. Rwy’n gwybod y bydd Cymdeithas Clefyd Motor Niwronau yn ddiolchgar iawn i chi, a bydd pob un ohonom sy’n cefnogi Hosbis Dewi Sant yn falch iawn o weld rhodd mor sylweddol yn cael ei roi hefyd, gan eu bod yn bwriadu agor canolfan newydd yng Nghaergybi. Ar ran pawb — diolch.”