AC Ynys Môn yn croesawu cydweithrediad ymchwil newydd ar gyfer y Tywysog Madog

Mae’r newyddion am bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac Ysgol Gwyddorau Cefnfor Prifysgol Bangor i ddefnyddio Llong Ymchwil y Tywysog Madog wedi ei groesawu gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth, sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch i sicrhau dyfodol i’r llong.

Bydd llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Tywysog Madog, yn cael ei defnyddio i gasglu data o’r moroedd o amgylch Cymru a fydd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei gofynion tystiolaeth morol a physgodfeydd.

Mae cytundeb rhwng Prifysgol Bangor a P&O yn sicrhau dyfodol y llong tan 2021, ond mae sicrwydd y Tywysog Madog y tu hwnt i hynny yn aneglur ar hyn o bryd, a dyna arweiniodd at gynnig Mr ap Iorwerth y llynedd y dylai’r llong gael ei mabwysiadu fel llong ymchwil genedlaethol i Gymru ar ôl i’r cytundeb cyfredol ddod i ben.

Gyda’r cyhoeddiad diweddar am gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, P&O a’r Brifysgol, mae’r Aelod Cynulliad yn obeithiol y gall y newyddion yma arwain at gydweithrediad mwy hirdymor wrth symud ymlaen a fyddai’n sicrhau defnydd pellach y llong yn y dyfodol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae’r newyddion yma yn ganlyniad ymgyrch hir i sicrhau dyfodol y Tywysog Madog, sy’n olygfa eiconig ar Gulfor y Fenai ac yn symbol o ragoriaeth Ysgol Gwyddorau Cefnfor Prifysgol Bangor.

“Er mai cydweithrediad cychwynnol rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor a P&O am ddwy flynedd ydyw, gobeithiaf y gall fod yn ddechrau partneriaeth hirdymor a all fynd rhywfaint o’r ffordd i ddatgloi potensial amgylchedd morol anhygoel Cymru.

“Mae ardal forol Cymru yn cynnwys adnoddau naturiol gwerthfawr ac amrywiol a all ddarparu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sylweddol a chyfrannu at les y genedl a chenedlaethau’r dyfodol. Ond, mewn gwirionedd, ni wyddom bron ddim am yr adnoddau hynny.

“Mae gennym yr adnodd sydd ei angen arnom i newid hynny: y Tywysog Madog. Rwy’n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn gwireddu ac yn sicrhau potensial y llong hon ar gyfer y dyfodol wrth gynnal yr ymchwil hanfodol yma, gan weithio ar y cyd â’r tîm rhagorol ym Mhrifysgol Bangor.”