Mae AC Ynys Môn yn annog Llywodraeth Cymru i gynnig sicrwydd hir dymor long ymchwil

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu unwaith eto er mwyn cynnig sicrwydd hirdymor i long ymchwil y Prince Madog, gan y gallai gynnal gwaith ymchwil hanfodol am flynyddoedd i ddod, a fyddai o fudd i Gymru.

Mae Mr ap Iorwerth wedi ymgyrchu ers peth amser i sicrhau bod y Prince Madog yn cael ei ddiogelu fel llong ymchwil Cenedlaethol Cymru, gan fod ei ddyfodol y tu hwnt i 2021 yn ansicr, am fod prydles Prifysgol Bangor gyda P&O Maritime yn dod i ben y flwyddyn nesaf.

Gall y llong, sydd wedi’i angori ym Mhorthaethwy, helpu i gynnal ymchwil hanfodol, a dyna pam yr ymgyrchodd AC Ynys Môn am ddwy flynedd i gael Comisiwn Llywodraeth Cymru i gefnogi’r Prince Madog ar gyfer prosiectau ymchwil. O ganlyniad, ym mis Awst 2019 cytunodd Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r llong am 100 diwrnod o waith er mwyn darganfod tystiolaeth am y môr a physgodfeydd.

Mae hyn wedi sicrhau dyfodol y llong yn y tymor byr, ond mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yr wythnos hon, anogodd Rhun ap Iorwerth Lywodraeth Cymru i weithredu i sicrhau dyfodol hirdymor y llong ac osgoi colli’r ased hanfodol hwn. Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n ddiolchgar iawn am ymateb y Llywodraeth pan wnes i dynnu sylw’r Gweinidogion at y perygl y gallwn fod yn colli’r Tywysog Madog, fel ased cenedlaethol sydd yn medru gwneud gwaith ymchwil morol ac sydd wedi ei angori ym Mhorthaethwy, yn fy etholaeth i ar Ynys Môn.

“Bu i’r gwaith 100 diwrnod o waith hollbwysig hwnnw sicrhau dyfodol y llong yn y tymor byr, ond hoffwn dynnu sylw’r Prif Weinidog at y ffaith nad yw 2021 ymhell iawn i ffwrdd, a bod angen gweithio er mwyn cynnig sicrwydd i’r dyfodol.

“Rwy’n apelio am addewid gan y Llywodraeth i ymrwymo i gynnal trafodaethau ar ymestyn y contract hwnnw, sicrhau ymchwil ecolegol, ynni a bwyd a allai fod yn hanfodol am flynyddoedd i ddod. Mae’r cloc yn tician ac mae gan y Llywodraeth rôl hanfodol i’w chwarae o ran sicrhau dyfodol hirdymor y llong. ”

Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yma, a diolch iddo am y wybodaeth a roddodd i ni yn ôl yn 2019 am ddyfodol y Prince Madog?

“Y contract sydd gennym ar hyn o bryd — rydym newydd ddechrau ar chwarter cyntaf y contract. Clywaf yr hyn mae Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud am y cloc yn tician, ac yr wyf yn sicr y bydd pobl yn y Brifysgol yn cydnabod y ffaith ein bod wedi bod yn gweithio’n agosach gyda nhw.

“Rydym am barhau â’r cydweithredu hwnnw ac rydym am gynllunio ar y cyd â hwy am wasanaeth a fydd yn ein helpu ni i gyd yng Nghymru tuag at 2021 a thu hwnt.”