Mae AC Ynys Môn yn ceisio sicrwydd ynghylch hawliau gweithwyr a rhagolygon swyddi ar gyfer morwyr lleol.

Bydd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth AC yn ysgrifennu at Stena i ofyn am sicrwydd ynghylch hawliau gweithwyr, ac yn holi a fydd swyddi’n cael eu gwarchod yng ngoleuni dyfodiad y llong Stena newydd, Estrid, i Borthladd Caergybi.

Codwyd pryderon gyda’r AC bod y llong newydd wedi’i newid o gofrestriad Cymraeg i gofrestriad Cyprus – ac yn ôl pob tebyg fod hynny yn cael ei yrru gan awydd i weld y llong yn parhau i fod wedi’i chofrestru yn yr UE – gydag aelodau o griw’r llong yn ofni y gallai’r newid danseilio hawliau gweithwyr yn y tymor hir ac yn effeithio ar bolisi hirsefydlog Stena o recriwtio morwyr yn lleol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Stena Line gyda nifer o fuddsoddiadau yng Nghaergybi, ond fe apeliodd atynt i sicrhau eu bod, wrth ddarparu cefnogaeth, yn gallu dylanwadu ar gyflogwyr lleol pwysig fel Stena hefyd.

Dywedodd AC Plaid Cymru:
“Gofynnais a oedd y Llywodraeth yn ymwybodol o benderfyniad Stena i ail-gofrestru’r fferi newydd sbon o Gaergybi-i-Ddulyn, Estrid. Mae’n wych gweld buddsoddiad yn y llong newydd hardd yma, ond rwy’n cael fy mhoeni gan y ffaith na fydd ei chofrestriad yn un Cymreig, ond yn hytrach wedi cael ei chofrestru o dan faber Cyprus tra roedd hi yn China yn ddiweddar. Mae awgrym ei fod yn cael ei yrru gan awydd i aros wedi’i gofrestru gyda’r UE

“Rwyf wedi cwrdd ag aelodau o griw’r llong, sydd o ganlyniad, ddim yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol y DU yn uniongyrchol a mae nhw’n poeni am oblygiadau hynny. Mae ganddyn nhw bryderon fwy hirdymor hefyd y gallai fod yn llethr llithrig tuag at danseilio hawliau gweithwyr a thanseilio polisi cyfredol Stena, sy’n hanfodol ar Ynys Môn, o recriwtio’n lleol yn hytrach nag yn rhyngwladol.

“Felly, yn ogystal â darparu datganiad rwyf wedi gofyn i’r Llywodraeth ysgrifennu at Stena, fel yr wyf innau yn ei wneud, i ofyn am sicrwydd y bydd hawliau a swyddi gweithwyr yn cael eu gwarchod, ac wrth wneud hynny, bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei dylanwad fel rhan-gyllidwyr ar amryw o brosiectau Stena.

Ymatebodd Gweinidog Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans:
“Cefais gyfarfod yn ddiweddar ag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth i drafod yr union fater hwn, er nad oedd yn benodol ynghlyn a Stena Line; roedd yn fwy yng nghyd-destun yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi morwyr o Gymru sy’n gweithio ym mhob math o rannau o’r diwydiant morio.

“Y pryderon a godwyd yno oedd pan fydd cwmnïau’n manteisio ar amrywiol gyfleoedd sydd ar eu cyfer yn gyfreithiol, yna mae’n golygu y gall rhai gweithwyr o Gymru gael eu prisio allan ac y gall gweithwyr o fannau eraill yn y byd yn cael taliad gwael a fedr arwain at hawliau cyflogaeth gwael hefyd.

“Rwy’n cydnabod rhai o’r pryderon rydych chi wedi’u disgrifio yn fawr iawn, a byddwn yn hapus i ofyn i’r Gweinidog Trafnidiaeth roi diweddariad ar agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hynny, a rhannu syniadau ar y cyfleoedd a allai weithredu at newid y gyfraith, er y byddai’n rhaid, yn fy marn i, i hynny gael ei wneud yn y DU. ”