Mae AC Ynys Môn yn gwthio am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn y newyddion am gau gweithlu Rehau yn Amlwch

Heddiw, mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi gwthio am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod yn gwneud popeth i helpu’r gweithwyr yng ngweithlu Rehau Amlwch yn dilyn datganiad gan y cwmni fod 104 o swyddi mewn perygl yno.

Mae gweithlu Rehau yn Amlwch wedi bod yn weithredol ers dros 40 mlynedd, a dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth Lywodraeth Cymru fod “y 104 o swyddi yno yn swyddi na all gogledd Ynys Môn fforddio i’w colli … mae’r maes yma wedi dioddef un ergyd economaidd ar ôl y llall. ”

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd grŵp REHAU ei bod yn ystyried cau’r safle yn Amlwch, gan nodi diffyg galw am y cynnyrch sydd yn cael ei greu yn Amlwch fel ffactor arwyddocaol yn eu penderfyniad. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y gweithlu – mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dod o ardal Amlwch – a’r gymuned leol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf wedi gofyn yn benodol i Lywodraeth Cymru gefnogi datblygiadau economaidd ar yr ynys, ac yn enwedig y gogledd yn dilyn y cyhoeddiadau yma gan Horizon a Rehau.

“Heddiw, holais Lywodraeth Cymru am sicrwydd y byddant yn paratoi adnoddau i allu cynnig cefnogaeth i Rehau er mwyn eu perswadio i ddatblygu cynnyrch newydd yn y lleoliad yn Amlwch, a rwyf wedi gofyn am sicrwydd y byddant yn cadw pob opsiwn ar y bwrdd.

“Os daw hi i’r gwaethaf, rwyf hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am sicrwydd y byddant yn buddsoddi’n drwm mewn cyfleoedd i ail-sgilio’r gweithwyr yn Rehau a bydd pob cefnogaeth i chwilio am waith arall i’r gweithwyr.

“Mae’r gweithwyr yn pryderu am y mathau o becynnau dileu swyddi a allai fod ar gael iddynt os daw hi i’r pwynt hwnnw, ac rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod yr holl gymorth a chefnogaeth fydd yn cael ei roi i staff Rehau yn Amlwch yn sicrhau eu bod nhw – o fewn cwmni nad yw’n gweithio gydag undebau – yn cael eu trin yn deg.”