AC Ynys Môn yn cyfarfod Gweinidog Gweriniaeth Iwerddon dros Faterion Ewropeaidd i drafod dyfodol masnach

Roedd y llif masnach gref barhaus rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon a pheryglon senario Brexit Heb Gytundeb ar yr agenda wrth i Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, gyfarfod â’r Gweinidog Gwladol dros Faterion Ewropeaidd Helen McEntee yn Nulyn yr wythnos diwethaf.

Wrth ymweld â Gweriniaeth Iwerddon ochr yn ochr ag arweinydd Plaid Cymru Adam Price yr wythnos diwethaf, cyfarfu Mr Price a Mr ap Iorwerth â Gweinidog Gwladol yr Iwerddon i drafod pwysigrwydd masnach rhwng Cymru a’r Weriniaeth, a phwysigrwydd masnach barhaus ddi-dor rhwng Caergybi a Dulyn.

Mae traffig trwy Borthladd Caergybi wedi cynyddu 694% ers dechrau’r Farchnad Sengl ym 1993, ac yn 2016 pasiodd dros un filiwn o gerbydau trwy borthladdoedd Cymru, ac mae nifer o arbenigwyr wedi nodi sut y byddai Porthladd Caergybi yn un o’r rhai fydd yn colli fwyaf pe bai Brexit Heb Gytundeb.

Yn dilyn y cyfarfod yn Nulyn, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Ni fu amser pwysicach erioed i ddatblygu’r cysylltiadau rhwng ein cenhedloedd. Roedd yn amlwg bod y gweinidog yn rhannu fy mhryderon am ddyfodol Porthladdoedd Cymru – ac yn arbennig Porthladd Caergybi – yng ngoleuni Brexit, yn enwedig yn achos senario Brexit Heb Gytundeb.

“Mae parhau â llif ddi-dor o fasnach rhwng Caergybi a Dulyn er budd pawb
waeth pa fargen Brexit – os o gwbl – fydd yn digwydd. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n osgoi Brexit Heb Gytundeb. Mae Plaid Cymru yn cynnal dadl yn y Cynulliad am beryglon Brexit Heb Gytundeb yr wythnos hon, ble byddwn yn gwneud achos i dynnu Brexit Heb Gytundeb allan o’r opsiynau posibl.

“Rwy’n credu mai’r fargen orau y gallwn ei gael yw’r un sydd gennym ar hyn o bryd, a chredaf y dylai ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd gael ei roi fel Pleidlais i’r Bobl nawr bod gennym ddarlun clir o’r hyn y mae Brexit yn ei olygu.”