Bu i AC Ynys Môn gyfarfod efo ‘Chwaraeon Cymru’ ac Ymddiriedolaeth CBDC ynghylch caeau pob tywydd yng Nghaergybi ac Amlwch

Yr wythnos hon, bu i ddau sefydliad allweddol gyfarfod ag Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wrth iddo barhau i wthio am ddatblygu cyfleusterau caeau pob tywydd newydd yng Nghaergybi ac Amlwch.

Cyfarfu AC Ynys Môn â chynrychiolwyr o ‘Chwaraeon Cymru’ ac Ymddiriedolaeth CBDC yn y Cynulliad yr wythnos hon i drafod y posibilrwydd o ddatblygu cyfleusterau caeau pob tywydd yn y ddwy gymuned, gan symud yr ymgyrch ymlaen yn dilyn trafodaethau rheolaidd gyda grwpiau cymunedol am yr angen am y cyfleusterau yma yn y ddwy ardal dros y misoedd diwethaf.

Bydd Mr ap Iorwerth yn cyfarfod eto â grwpiau cymunedol o’r ddwy ardal yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd hefyd yn edrych i drefnu cyfle i Chwaraeon Cymru gwrdd â’r grwpiau yn uniongyrchol i drafod yr angen am y cyfleusterau.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwyf wedi cael cyfarfod da iawn, iawn yr wythnos hon gyda chynrychiolwyr o ‘Chwaraeon Cymru’ ac Ymddiriedolaeth CBDC ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu cyfleusterau caeau pob tywydd yng Nghaergybi ac Amlwch.

“Un peth pwysig iawn yw eu bod yn amlwg yn gweld Ynys Môn yn flaenoriaeth iddynt wrth ddarparu caeau pob tywydd, ac roeddent yn cytuno â mi fod y ddwy ardal yn cyflwyno achos cryf iawn dros fod angen y cyfleusterau hyn.

“Byddaf yn cyfarfod eto â grwpiau cymunedol o’r ddwy ardal yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf, a byddaf hefyd yn edrych i drefnu cyfarfod gyda chlybiau o’r ddwy ardal i drafod y prosiectau yn uniongyrchol gyda Chwaraeon Cymru.

“Mae Chwaraeon Cymru ac Ymddiriedolaeth CBDC yn awyddus iawn i weithio gyda fi ar hyn. Mae’n cymryd amser i gyflawni pethau fel hyn, ond y peth allweddol yw fod gennym ni nôd ynglŷn a beth rydyn ni’n ddymuno gyflawni, a chael caeau pob tywydd yng Nghaergybi ac Amlwch ydi’r nôd.

“Mae’n mynd i gymryd llawer o waith a llawer o gydweithio gan Chwaraeon Cymru, Ymddiriedolaeth CBDC, y Cyngor Sir a chymaint o rai eraill, ond gadewch i ni gyflawni hyn.”