AC Ynys Môn yn trafod adnewyddu Gorsaf Caergybi gyda Network Rail

Mewn cyfarfod diweddar gyda Network Rail, holodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, am ddiweddariad ganddynt ynglŷn â’u cynlluniau i wella Gorsaf Reilffordd Caergybi fel rhan o’u datblygiadau rheilffyrdd ar draws Cymru.

Clustnodwyd buddsoddiad o £1.2m ar gyfer gwaith i wella Gorsaf Rheilffordd Caergybi yn y dyfodol agos, gyda Network Rail yn cadarnhau mewn cyfarfod gydag AC Ynys Môn byddan nhw’n ymgynghori gyda nifer o randdeiliaid ar y ffordd fwyaf effeithiol i fuddsoddi’r swm hwn wrth drawsnewid yr orsaf yng Nghaergybi.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae hon yn orsaf bwysig sydd wedi gweld dyddiau gwell, ond nawr mae cyfle go iawn i gael grwpiau amrywiol i ddod at ei gilydd a chydweithio i’w gwella a sicrhau newid cadarnhaol ar gyfer yr hyn sy’n borth i ogledd Cymru yng ngorsaf reilffordd Caergybi.”

Mewn cyfarfod â Mark Langman, Rheolwr Gyfarwyddwr Network Rail Cymru a Gorllewin, a Sam Hadley, bu Rhun ap Iorwerth hefyd yn trafod cynlluniau i ailagor y rheilffordd sy’n rhedeg o Amlwch i Gaerwen ar Ynys Môn.

Cadarnhaodd Network Rail fod trafodaethau ynghylch prydles i redeg trenau ar y lein ar bwynt datblygedig ar hyn o bryd, a chadarnhawyd hefyd y byddent yn barod i ddarparu cefnogaeth ar gyfer ailosod Pont Glanhwfa a ddifrodwyd yn ddiweddar yn Llangefni.