Rhaid i Llywodraeth Cymru gondemnio hyfforddiant peilot o Saudi yn RAF y Fali.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi galw ar y llywodraeth i gondemnio defnyddio RAF y Fali fel safle hyfforddi ar gyfer peilotiaid o Lu Awyr Saudi Arabia.

Fel ymateb i gwestiwn gan Blaid Cymru yn San Steffan wythnos diwethaf, daeth yn amlwg fod peilotiaid o Saudi yn cael ei hyfforddi yn RAF Fali ar Ynys Môn a dadleuodd Mr ap Iorwerth yn Siambr y Cynulliad heddiw ei bod yn hollol annerbyniol i dderbyn peilotiaid o lu awyr Saudi ar gyfer ei hyfforddi, o ystyried rôl Saudi Arabia yn yr argyfwng dyngarol sydd yn datblygu yn sgil y rhyfel yn Yemen.

Mae Sefydliad Hawliau Dynol Amnest Rhyngwladol wedi datgelu yn ddiweddar fod dros 30 ymosodiad awyr wnaeth arwain at 513 o farwolaethau sifil – yn cynnwys 150 o blant -wedi cael eu cynnal gan glymblaid a arweinir gan Saudi Arabia sy’n ymddangos ei bod nhw wedi torri cyfraith ddyngarol ryngwladol.

Mae gan Lywodraeth y DU gysylltiadau milwrol cryf gyda’r gyfundrefn Saudi, gyda Llywodraeth Brydeinig yn gwerthu gwerth £1.13bn o offer milwrol i Saudi Arabia yn 2017, er gwaethaf ei fod wedi ei gyfuno yn y gwrthdaro gwaedlyd yn Yemen, a heddiw mae AC Ynys Môn yn apelio ar y Llywodraeth Cymru i siarad yn erbyn y defnydd o RAF Fali fel sylfaen hyfforddi ar gyfer peilotiaid Saudi.

“Mae RAF Fali yn Ganolfan Rhagoriaeth ar gyfer hyfforddi peilotiaid y llu awyr ym Mhrydain, ac mae hefyd yn ganolfan ble mae peilotiaid o wledydd eraill yn treulio amser ar adegau fel y gwyddem yn barod, ond fel ymateb i gwestiwn Plaid Cymru yn San Steffan wythnos ddiwetha’ cadarnhaodd y Gweinidog amddiffyn fod peilotiaid o Saudi Arabi yn cael ei hyfforddi yno ar hyn o bryd.

“Wrth gysidro’r cwestiwn moesol arwyddocaol a gafodd ei ddatgelu yng ngolau gweithrediadau rhyngwladol Saudi Arabia yn ddiweddar, mae’n hollol annerbyniol i ni dderbyn peilotiaid o’r Llu Awyr yn Saudi Arabia I gael hyfforddiant yma yn RAF Fali.

“Mae rôl Llu Awyr Saudi wrth ymosod ar Yemen wedi creu argyfwng dyngarol erchyll. Tra mae lluoedd dyngarol wedi bod yn trio ymateb er mwyn darparu cymorth i rheiny sydd wedi dioddef yn sgil y rhyfel, gyda nifer yn ddynion, merched a phlant cwbl ddiniwed a gafodd ei lladd gan ymosodiadau awyr.

“Mae Amnesti Rhyngwladol wedi dweud yn ddiweddar ei bod wedi nodi 36 ymosodiad awyr gan Lu awyr Saudi Arabia yn Yemen sydd yn mynd yn torri cyfraith ddyngarol ryngwladol, sydd yn cynnwys ymosodiadau ar ysbytai ac ysgolion, ac rydw i’n annog Llywodraeth Cymru i gondemnio defnydd RAF Fali i hyfforddi peilotiaid a fydd wedi hynny yn gyfrifol am ymosodiadau erchyll tebyg.