Dylai Llywodraeth Cymru bod yn falch i gefnogi bid Gemau’r Ynysoedd 2025, meddai AC Môn

Gydag Ynys Môn wedi gwneud cais i gynnal Gemau’r Ynysoedd Rhyngwladol 2025 a’r dyddiad cau i gyflwyno’r cais yn gyflym agosáu, mae Aelod Cynulliad yr Ynys, Rhun ap Iorwerth wedi dwyn sylw’r Cynulliad Cenedlaethol at y posibilrwydd y gallai Ynys Môn a Chymru gynnal y twrnamaint rhyngwladol mawr yma.

Mewn cwestiwn i Weinidog Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, sy’n dal y portffolio ‘Digwyddiadau Mawr’, rhoddodd Rhun ap Iorwerth gais yr Ynys i gynnal Gemau Ynysoedd Rhyngwladol 2025 ger eu bron – twrnamaint a allai arwain at hwb economaidd o £5m i’r ynys yn 2025, pe bai Môn yn llwyddiannus yn eu cais,

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae yma un digwyddiad mawr ar y gweill i ni ar Ynys Môn – y cyfle i lwyfannu Gemau’r Ynysoedd yn 2025. Mae pwyllgor gweithredol Gemau’r Ynysoedd yn rhyngwladol yn gefnogol iawn i’n cynlluniau ac rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am hynny, a byddwn yn cyflwyno ein cais terfynol mewn ychydig wythnosau, felly mae hi’n amser tyngedfennol arnom rwan.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a ddangoswyd gan yr awdurdod lleol a chan dîm y prif ddigwyddiadau o fewn Llywodraeth Cymru o dan Weinidogion blaenorol, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r Gweinidog presennol, Eluned Morgan, dros y blynyddoedd i ddod, wrth i ni nesu at 2025.

“Mae hwn yn gyfle amhrisiadwy i Ynys Môn, a fydd yn hwb economaidd, a fydd yn annog iechyd, ffitrwydd a chwaraeon yn gyffredinol, ac yn gadael ei ôl a’i ddylanwad yma ym Môn am flynyddoedd lawer. Dylai’r Llywodraeth fod yn falch iawn o gefnogi digwyddiad o’r fath.”