Mae angen i Lywodraeth Cymru gael strategaeth er mwyn ‘gwneud y mwyaf o system brofi Cymru’ meddai Rhun ap Iorwerth

Mae Plaid Cymru wedi ailadrodd ei galw i ehangu system brofi Covid-19 yng Nghymru er mwyn sicrhau fod achosion yn cael eu rheoli yn gynt ac i amddiffyn y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae lle i 12,374 o brofion ddigwydd yn ddyddiol yng Nghymru, ond mae ffigyrau Gorffennaf y 1af yn dangos mai dim ond 1,410 a brofwyd yng Nghymru ddoe.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, y byddai profi ansymptomatig rheolaidd yn gallu cael ei ehangu i fwy o weithwyr iechyd a gofal, yn ogystal â gweithwyr allweddol eraill megis y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant prosesu bwyd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae profi yn ran annatod o’r frwydr i fod yn llwyddiannus yn erbyn covid-19. Felly mae’n rhaid cael strategaeth i wneud y mwyaf o’r capasiti profi sydd ganddom ni. Roedd y capasiti yma yn rhy araf yn cael ei gynyddu, ond rwan ei fod o yma, mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio.

“Mi fuaswn i’n licio gweld strategaeth glir i ddefnyddio’r capasiti yma yn y ffordd orau bosib. Mae angen nod glir, yn ogystal â chael hyblygrwydd er mwyn sicrhau fod capasiti yn gallu cael ei addasu wrth ymateb i achosion newydd.

Pan gafodd ei gwestiynu gan Rhun mewn cyfarfod diweddar Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dywedodd yr Athro Deenan Pillay, aelod o Bwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE), ei fod yn cytuno fod angen gwneud y mwyaf o’r capasiti profi a chael ‘strategaeth glir’.

Dywedodd un meddyg teulu yn Ynys Môn, sef etholaeth Mr ap Iorwerth, sydd wedi galw am fwy o brofi i fwy o weithwyr iechyd, fod angen hyn er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

Dywedodd Dr Sarah Borlace: “Dwi’n credu dylai profi rheolaidd gael ei gynnig i weithwyr iechyd er mwyn ceisio sicrhau nad ydym ni’n peryglu bywydau cleifion, cydweithwyr a theuluoedd yn ddiangen.”

“Dwi a fy nghydweithwyr wedi cymryd pob rhagofal posibl, ond byddau profi rheolaidd yn rhoi mwy o sicrwydd i gleifion, a dwi’n credu y dylai profi gweithwyr iechyd yn rheolaidd fod yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau nad ydym ni’n peryglu bywydau cleifion, cydweithwyr a theuluoedd yn ddiangen.”