Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ag argyfwng cyllido Llywodraeth Leol, meddai Rhun ap Iorwerth

Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i’r afael â’r pwysau aruthrol y mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar ôl degawd o lymder, meddai Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.

Ar ôl dioddef toriadau mewn termau real i’w cyllidebau dros nifer o flynyddoedd, mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn wynebu pwysau o dros £ 250m ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, ac mae Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru, yn credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gynorthwyo Cynghorau ledled Cymru i ymdopi â’r pwysau yma, neu wynebu toriadau pellach i wasanaethau hanfodol.

Mewn cwestiwn i Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher, gofynnodd Mr ap Iorwerth am sicrwydd y byddai cynnydd mewn cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cael ei flaenoriaethu, ac atebodd y Gweinidog gan nodi bod Llywodraeth Cymru eisiau cynnig y ‘setliad gorau posibl’.

Gan rybuddio am y posibilrwydd o doriadau pellach i wasanaethau hanfodol, ymatebodd Mr ap Iorwerth, gan ddweud:

“Nid yw Llywodraeth Cymru, gan ddweud eu bod am roi’r ‘setliad gorau posibl’ i Lywodraeth Leol, yn fy llenwi â hyder, ac rwy’n weddol siŵr nad yw wedi rhoi llawer o hyder i Gynghorau ledled Cymru ychwaith.

“Yn y gorffennol mae setliad gwastad ar gyfer Llywodraeth Leol wedi’i werthu fel newyddion da, ond dydi o ddim yn hynny. Yn ol Cyngor Sir Ynys Môn bydd angen £6m arnyn nhw i er mwyn aros fel mae nhw. Dyna ydi realiti’r sefyllfa.

“Mae cynghorau’n wynebu pwysau o dros chwarter biliwn o bunnoedd yn y flwyddyn ariannol nesaf a gyda chyllidebau wedi cael eu torri mewn disgresiwn yn y gorffennol, nid oes unman ar ôl i gynghorau fynd rwan heb dorri gwasanaethau, ac addysg plant ac ni allwn fforddio i dorri rheiny.

“Bu’n rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn wneud y penderfyniad anodd i gynyddu treth y cyngor hyd at 10% y llynedd. Ni allant feddwl am ei gynyddu yr un faint y flwyddyn nesaf, ac mae llawer o gynghorau eraill yn wynebu’r un broblem.

“Ni allwn fynd yn ôl at drethdalwyr Cymru a gofyn iddynt lenwi’r bwlch, oherwydd mae pwysau anhygoel arnynt eisoes – rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o arian i Lywodraeth Leol i ddatrys yr argyfwng cyllido hwn.”