Rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi cadwyn gyflenwi Cymru yn dilyn cyhoeddiad Honda Swindon, meddai Rhun ap Iorwerth.

Mae Gweinidog Cysgodol yr Economi a Chyllid Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i weithredu’n gyflym wrth gynnig cefnogaeth i filoedd o swyddi yng nghadwyn gyflenwi Cymru ar ôl i Honda gadarnhau ddoe y byddai’n cau ei safle cynhyrchu ceir yn Swindon yn 2021.

Yn ogystal â’r 3,500 o swyddi sydd mewn perygl yn y safle, mae gan 18 o gwmnïau yng Nghymru gontractau yng nghadwyn gyflenwi Honda sydd wedi creu nifer helaeth o swyddi, ac fe gododd AC Plaid Cymru gwestiwn cyfoes heddiw yn Siambr y Cynulliad gyda Llywodraeth Cymru gan eu hannog i weithredu’n gyflym ar y penderfyniad.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae’r cyhoeddiad ynglŷn â chau ffatri Honda yn Swindon yn amlwg yn un sy’n peri pryder mawr o ran ei goblygiadau i’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru gan fod rhai 18 o gwmnïau yn gyflenwyr uniongyrchol i’r ffatri gan gynnwys miloedd o weithwyr ar draws y wlad, ac wrth gwrs mae gan y cwmnļau hynny eu cadwyni cyflenwi eu hunain hefyd, felly gallai gael effaith ar rheiny a’i cyflenwyr hwythau.

“Bydd rhai cwmnïau, heb unrhyw amheuaeth, yn gallu trosglwyddo i gwsmeriaid newydd, o gofio’r cyfnod cymharol hir i gau’r ffatri yn Swindon ond yn sicr bydd llawer yn ei chael hi’n anodd disodli eu busnes Honda, yn enwedig os yw’r contractau hynny yn ffurfio cyfran fawr o‘u holl waith.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflym i asesu effaith cyhoeddiad Honda ac amlinellu pa fathau o becynnau cymorth sy’n cael eu hystyried ar gyfer datblygu i helpu’r cwmnïau hynny sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi ar hyn o bryd.

“Er bod Honda yn dweud mai nid Brexit sydd yn gyfrifol am ei penderfyniad, mae digon o dystiolaeth i ddangos bod ansicrwydd a nerfusrwydd ynghylch Brexit wedi bod yn ffactor arwyddocaol mewn rhai penderfyniadau a wnaed gan wneuthurwyr ceir a chydrannau i ddadfuddsoddi yn y DU yn ystod y misoedd diwethaf, a mae yna ddigon o rybuddion am ganlyniadau trychinebus Brexit Heb-Fargen ar gyfer gwneud ceir yn y DU.”