Rhaid i Lywodraeth Cymru wthio am fuddsoddiad i gryfhau Croesfan y Fenai

Mewn ymateb i sylwadau Ken Skates AC heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Ar ôl i gynllun Wylfa gael ei atal mi ofynnais i yn benodol i Lywodraeth Cymru roi sicrwydd bod yr achos dros groesiad newydd dros y Fenai mor gryf ag erioed, ac mi roddwyd y sicrwydd hwnnw i fi.

“Wrth gwrs y buasai Wylfa wedi golygu traffic ychwanegol ac roedd hynny yn ffactor yn y cynlluniau ar gyfer y creosiad, ond y gwir amdani ydi bod yna gwestiynau difirfol am wytnwch y croesiad presennol. Ar ormod o achlysuron mae’r cysylltiad rhwng Ynys Môn a’r tir mawr wedi cael ei dorri neu wedi bod mewn peryg o gael ei dorri, ac mae’r gwasanethau brys wastad wedi mynnu wrtha’ i bod angen i’r croesiad yna gael ei gryfhau. Dyna y prif reswm dros yr angen am bont.

“Er bod Wylfa wedi ei oedi, rydw i hefyd yn credu bod yna achos cryf iawn i barhau i wthio am fuddsoddiad gan y Grid Cenedlaethol tuag at y bont. Y rheswm am hynny ydi bod cannoedd o filynnau o bunnau yn cael ei wario ar roi gwifrau dan ddaear mewn ardaloedd o harddwch a Pharciau Cenedlaethol ac ati ar draws Prydain, a’r gwir amdani ydi bod y gwifrau dros y Fenai yn anharddu un o ardloedd prydferthaf Cymru. Dylai arian gael ei buddsoddiad mewn cael gwared arnyn nhw. Y ffordd i wneud hynny ydi i roi y gwifrau ar bont, ac mi ddylai hynny ddigwydd beth bynnag yw dyfodol cynllun Wylfa. Mae angen i Lywodraeth Cymru wthio am hynny.

“Hefyd yn digwydd bod, rydw i’n cefnogi’r cynllun am Bont Bendigeidfran, y cynllun rhyfeddol hwnnw fyddai’n dod ag ymwelwyr o dros y byd i weld y croesiad, ond mater arall ydi hynny.”