Mae AC Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi croesawu’r newyddion bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhwydwaith o gludwyr cyflym ar gyfer Cerbydau Trydan yn symud yn ei flaen, yn dilyn ymgyrch flaenllaw’r AC Plaid i weld y dechnoleg yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru.
Nododd, mewn datganiad gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, sut mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am gwefrwyr cyflym, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a bod swyddogion yn ystyried sut orau i fuddsoddi £2m yr oedd Plaid Cymru wedi ei sicrhau fel rhan o’u cytundeb cyllideb, tuag at ddatblygu’r rhwydwaith gwefru cyflymm, gyda’r gwariant i fod i gychwyn yn y Gwanwyn.
Mae Mr ap Iorwerth wedi arwain ymgyrch Plaid Cymru i fabwysiadu technoleg EV yn well, gan gynnig deddfwriaeth yn y Cynulliad a fyddai’n gwneud pwyntiau gwefru yn rhan o ganllawiau cynllunio yn y dyfodol, ac yn codi cwestiynau am hynny gyda Llywodraeth Cymru yn rheolaidd.
Y llynedd, benthycodd AC Ynys Môn EV i gynnal ei fusnes wythnosol yn y Cynulliad mewn ymgais i ddangos yr heriau sydd yn wynebu perchnogion EV’s gan ddefnyddio’r seilwaith presennol.
Dywedodd Mr ap Iorwerth:
“Mae hwn yn fuddugoliaeth arall i Blaid Cymru, ar ôl i ni sicrhau £2m tuag at ddatblygu isadeiledd EV gwell fel rhan o’n cytundeb cyllideb â Llywodraeth Cymru. Mae’n braf gweld bod datblygiadau ynglŷn â gweithredu rhwydwaith gwefru cyflym yn symud yn ei flaen.
“Mae llawer o waith i’w wneud cyn gweld Cymru’n rhan o seilwaith EV, ond byddai buddsoddi’r £2m yma yn gyflym ac yn effeithlon yn gam cyntaf cadarnhaol, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’u cynlluniau.
“Fel rhan o’m hymgyrch i fabwysiadu technoleg EV yn fwy effeithiol, rwy’n gobeithio gallu ymweld â’r Alban yn y misoedd nesaf – gwlad sydd wedi gosod y bar yn wirioneddol uchel o ran y chwyldro EV.
“Rwy’n gobeithio ymweld â swyddogion yn Dundee, lle mae technoleg EV yn arbennig o amlwg, a hefyd Gweinidogion Llywodraeth yr Alban yng Nghaeredin, i ddysgu o’u profiadau wrth flaenoriaethu buddsoddiad mewn EVs, ac edrychwn ymlaen at ddod â’m canfyddiadau yn ôl i’r Cynulliad i wthio’r mater ymlaen yng Nghymru.”