Dylai Llywodraethau Cymru a’r DU roi mwy o gefnogaeth i ‘brosiect arloesol’ Minesto, meddai AC Ynys Môn

Yn dilyn ei ymweliad i weld y datblygiadau diweddaraf yn nhechnoleg ynni morol unigryw Minesto UK, ‘Deep Green’, mae Rhun ap Iorwerth AC wedi galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gefnogi’r cwmni wrth iddynt geisio gwneud cynnydd dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Prosiect Minesto yng Nghaergybi, chwe chilomedr oddi ar arfordir Caergybi, yw prosiect ynni llanw cyflym isel cyntaf y byd, ac mae’r cwmni wedi sefydlu pencadlys y DU yn nhref Caergybi Ynys Môn, ac felly’n dangos ymrwymiad wrth ddatblygu a masnachu eu technoleg arloesol yn yr ardal.

Ym Mai 2015, dyfarnwyd grant o €13 miliwn i Minesto gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop trwy Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), sydd yn rhan o Lywodraeth Cymru, ar gyfer cyflwyno ‘Deep Green’ yn fasnachol.

Yn dilyn yr ymweliad i weld y cynnydd diweddaraf yng nghynlluniau Minesto, ble bu iddo gyfarfod â Phrif Swyddog Gweithredu Minesto, David Collier a’r Rheolwr Datblygu Busnes, Osian Roberts, mae Rhun ap Iorwerth AC wedi galw ar Lywodraeth y DU hefyd i gamu ymlaen a chefnogi’r prosiect, er mwyn eu cynorthwyo i gyrraedd eu llawn botensial.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Dyma dechnoleg y dylem fod yn falch iawn ei fod yn cael ei ddatblygu yma ar Ynys Môn – mae gwaith Minesto yn yr ardal hon yn arloesol, ac mae’n gyffrous iawn i feddwl am botensial y prosiect hwn i gynhyrchu ynni glân, gwyrdd oddi ar arfordir Ynys Môn.

“Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru sydd, trwy WEFO, wedi cefnogi’r prosiect yn frwdfrydig hyd yn hyn, ond erbyn hyn mae’n bryd – yn enwedig yng ngoleuni’r cyhoeddiadau diweddar ynghylch swyddi a chynhyrchu ynni ar yr ynys – i Lywodraethau Cymru a’r DU ddangos ei bod yn ddifrifol am gefnogi’r prosiect arloesol a thrawiadol yma i gyrraedd ei botensial llawn.”