“Allwn ni ddim bancio ar y banciau mawr” medd Rhun ap Iorwerth

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi dweud fod ffigyrau diweddar Which? ar gau banciau yn amlygu’r ffaith fod y banciau mawr yn troi eu cefnau ar gymunedau gwledig fel yn Ynys Môn.

Mae’r ffigyrau’n dangos fod Ynys Môn wedi colli 63% o’u canghennau banc ers mis Ionawr 2015, gyda dim ond 6 cangen ar ôl.

Ar ben hyn, mae Barclays wedi cyhoeddi’n ddiweddar na fydd eu cwsmeriaid bellach yn gallu tynnu arian o’r cyfrifon o ganghennau Swyddfa’r Bost chwaith.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Wrth gwrs, roeddem eisoes yn ymwybodol fod canghennau banc wedi bod yn cau fesul un ar draws Ynys Môn. Ond mae’r ffigyrau yma’n amlygu pa mor ddrwg ydy’r sefyllfa. Mae ffigyrau Which? yn dangos fod Ynys Môn wedi colli 63% o’i changhennau banc ers 2015 yn unig.

“Yn aml, dywedir wrth etholwyr pan fydd canghennau’n cau y gallant ddefnyddio gwasanaethau amgen, megis bancio ar-lein neu eu Swyddfa Bost leol yn lle. Ond rydyn ni’n gwybod bod cyflymderau rhyngrwyd gwael mewn rhai ardaloedd o Ynys Môn o hyd, ac mae Barclays bellach wedi cyhoeddi na fydd eu cwsmeriaid bellach yn gallu tynnu arian o’u cyfrifon yn Swyddfeydd Post chwaith.

“Rwy’n bwriadu codi’r mater hwn gyda’r Prif Weinidog yn y Senedd yr wythnos nesaf gan ei bod yn amlwg na allwn ddibynnu ar y banciau mawr ac mae angen meddwl am fodelau eraill.

“wrth gwrs, dydy Ynys Môn ddim yn eithirad yn hyn o beth. Hyd yn oed yn etholaeth y Gweinidog Economi, De Clwyd, mae wedi methu arbed 80% o’r canghennau yno rhag cau ers Ionawr 2015, gan adael dim ond un ar ôl.

“Rydw i’n cefnogi camau arloesol gan gynnwys sefydlu ein banc cymunedol ein hunai yng Nghymru, a byddaf yn cyfarfod gyda Banc Cambris yn y dyfodol agos i drafod eu cynlluniau, oherwydd mae’n amwlg na allwn ni ddibynnu ar y banciau mawr bellach.”