“Mae’r oedi gan Drafnidiaeth Cymru yn annerbyniol” yn ôl Rhun ap Iorwerth

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi beirniadu’r oedi a’r problemau a brofir gan deithwyr ar y rheilffyrdd ers dechrau cyfnod Trafnidiaeth Cymru fel masnachfraint rheilffyrdd newydd Llywodraeth Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymddiheuro’n gyhoeddus i gwsmeriaid yr wythnos hon am y nifer o wasanaethau sydd wedi cael eu canslo neu eu gohirio ers iddyn nhw gymryd drosodd rhyw fis yn ôl.

Mewn cwestiwn amserol i Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, holodd Rhun ap Iorwerth, Llefarydd Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid i Llywodraeth Llafur roi sicrwydd i deithwyr y byddai’r fasnachfraint newydd yn gweithredu yn unol a’r disgwyliadau.
Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Roedd y Prif Weinidog yn hynod o amddiffynnol pan gafodd ei feirniadu am y sefyllfa ar reilffyrdd Cymru, pan oedd miloedd lawer o deithwyr wedi dioddef, yn methu â chyrraedd y gwaith neu’n methu â mynd adref o’r gwaith.

“Mae’r oedi a’r problemau oedd yn wynebu teithwyr yn yr wythnosau diwethaf, o dan y fasnachfraint newydd yn hollol annerbyniol, ac i’r Prif Weinidog ddweud ddoe ‘wnaethon ni ddim gaddo trawsnewid y rheilffordd mewn mis’ – na, wnaethoch chi ddim, ac nid beirniadaeth ar y Llywodraeth ydi hyn, ond y pwynt ydi fod pethau wedi gwaethygu ar gyfradd frawychus yn ystod yr wythnosau diwethaf.

“Rwy’n cefnogi Trafnidiaeth Cymru mewn egwyddor gan fod pob un ohonom am weld gwell gwasanaethau rheilffordd, ond mae pobl eisiau gwell gwasanaeth ac yn edrych ymlaen at ddechrau pennod newydd – Mae angen i Lywodraeth Cymru roi’r sicrwydd y bydd y fasnachfraint yma yn gwireddu yr hyn yr addawyd.”