Y penderfyniad am drydedd bont yn fuddugoliaeth mawr i Blaid Cymru, yn ôl Rhun ap Iorwerth

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn wedi mynegi ei foddhad yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am drydedd bont ar draws y Fenai.

Bu i AC Plaid Cymru arwain yr ymgyrch am drydedd bont ar draws Afon Menai ers ymgymryd â’i swydd fel AC Ynys Môn yn ôl yn 2013, a heddiw mae’n croesawu’r newyddion y bydd y gwaith o adeiladu’r bont newydd, yn dechrau ymhen tair blynedd.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwyf wedi galw am roi estyniad i’r bont bresennol ers i mi gael fy ethol – ac roedd fy rhagflaenydd Ieuan Wyn Jones yn galw amdano hefyd – mae hyn yn fuddugoliaeth arall i Blaid Cymru, wrth i ni barhau i geisio buddsoddi mewn seilwaith hanfodol er budd Cymru gyfan.

“Bydd y bont newydd yma yn cynnig ateb i’r oedi dros y bont yn ystod oriau cyrraedd ac ymadael gwaith, sydd ar hyn o bryd yn achosi rhwystredigaeth i deithwyr. Mae’n gam ymlaen at adeiladu gwytnwch ar gyfer cysylltiadau rhwng y tir mawr ac Ynys Môn a bydd yn darparu buddion o ran masnach, ac ar gyfer y gwasanaethau brys hefyd.

“Cafwyd nifer o enghreifftiau diweddar ble bu rhaid cau pont Britannia yn sgil gwyntoedd neu ddamweiniau, gan adael pont Menai, sef y bont sydd bron a bod yn 200 oed fel yr unig gyswllt oedd ar agor rhwng Môn a’r tir mawr. Chwilio am ffyrdd o dynnu pwysau, a nid ychwanegu at y pwysau ar ein cysylltiadau presennol ddylai fod ar frig yr agenda o ran cynllunio i’r dyfodol.”

Ychwanegodd AC Ynys Môn bod angen i Lywodraeth Cymru roi pwysau ar y Grid Cenedlaethol i ymgorffori eu cynlluniau Cysylltiadau Gogledd Cymru newydd i ddatblygiad y Bont newydd, yn hytrach na dilyn eu cynlluniau gwreiddiol o adeiladu twnnel gwerth £300m o dan y Fenai i gartrefu’r ceblau.

“Bydd y cyhoeddiad cadarnhaol yma yn golygu bydd traffig yn parhau i lifo, bydd yn rhoi sicrwydd i’r gwasanaethau brys, yn cynyddu masnach, a rŵan mae’n rhaid i ni barhau i roi pwysau ar y Grid Cenedlaethol i ymgorffori’r Cyswllt Gogledd Cymru newydd i mewn i ddatblygiad y bont newydd, yn hytrach na symud ymlaen gyda’r opsiwn costus o greu twnnel.

“Yn y mis diwetha’, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthyf eu bod mewn trafodaeth adeiladol gyda’r Grid, ac mae’n hollbwysig rŵan bod pwysau’n cael ei roi arnynt i sicrhau bod astudiaeth dichonolrwydd yn cael ei gynnal cyn gynted â phosib, ar y posibilrwydd o ddefnyddio’r bont newydd i gario’r ceblau.”