Oedi gyda chanlyniadau profion ‘yn tanseilio diogelwch a hyder y cyhoedd’ meddai Rhun ap Iorwerth

Wrth ymateb i’r newyddion bod cyfyngiadau cloi pellach wedi’u lleddfu yng Nghymru, mae Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS wedi dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru profi ei gallu i ddelio ag achosion Newydd o Covid-19 – neu fentro colli hyder y cyhoedd.

Mae’r ffigurau a ryddhawyd yr wythnos hon yn dangos bod bron i dri chwarter canlyniadau’r profion Covid-19 wedi cymryd hirach na 24 awr.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Rydyn ni i gyd eisiau cael ein rhyddid yn ôl yn raddol, ond mae angen i fecanwaith gadarn gyd-fynd ag unrhyw leddfu cyfyngiadau i gael gwared ar achosion o goronafirws.

“Nid yw’r amser aros am ganlyniadau profion yn fy llenwi â hyder y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ymateb yn gyflym i achosion newydd, o ystyried bod tri chwarter y profion o ganolfannau profi rhanbarthol yn cymryd mwy na 24 awr i ddychwelyd.

“Mae’r achosion diweddar yn Wrecsam yn rybudd ein bod yn dal i fyw gyda bygythiad Covid-19 real iawn, a bod angen cyfundrefnau cadarn i nodi a chlampio clystyrau lleol. Mae hyn yn hanfodol fel y gallwn osgoi effaith economaidd a chymdeithasol gorfod gorfodi rheolau llym o’r newydd.”