Rhun ap Iorwerth eto yn annog y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r bwlch treth ar ail gartrefi

Honnir bod y “bwlch” treth cartref gwyliau yn costio cymaint â £1m y flwyddyn i Gyngor Sir Ynys Môn, ac mae Aelod Seneddol yr Ynys, Rhun ap Iorwerth, wedi codi’r mater gyda Llywodraeth Cymru unwaith eto yn y gobaith y byddan nhw yn gweithredu i’w ddatrys.

Mae ffigurau Awdurdod Cyllid Cymru 2019/20 yn dangos bod 36% o werthiannau tai Ynys Môn ar y cyfraddau uwch o Dreth Trafodiad Tir (LTT) – a chredir bod y mwyafrif yn ail gartrefi neu yn gartrefi sydd wedi ei prynu-i-osod. Yn 2017, daeth Cyngor Môn yn un o’r cynghorau cyntaf i gyflwyno ardoll ail gartref, gyda rhywfaint o’r premiwm 25% yn mynd i helpu prynwyr tŷ cyntaf i gael mynediad i’r farchnad dai.

Fe’i cynyddwyd yn ddiweddarach i 35% i fanteisio ar boblogrwydd yr ynys fel cyrchfan ail gartref – yn ail yn unig i Wynedd sy’n codi premiwm o 50%. Ond yn ôl MS yr Ynys, mae “bwlch” treth yn costio cymaint ag £1m y flwyddyn i’r cyngor.

Yn y Senedd yr wythnos hon, cododd Rhun ap Iorwerth MS ei bryderon unwaith eto ynglŷn â’r mater gyda Llywodraeth Cymru:

“Rydan ni’n gwybod bod yna deimlad cryf o aniddigrwydd wedi bod dros y cyfnod diweddar o fewn cymunedau yng Nghymru, sydd yn cynnwys ardaloedd fel fy etholaeth i, ble mae yna gyfran uchel o ail gartrefi a thai haf, a mae’n rhaid cymryd camau i atal colli rhagor o’r stoc dai i brynwyr ail gartrefi.

“Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gamau i fynd i’r afael â hyn, yn cynnwys newid rheolau cynllunio, rhoi cap ar niferoedd o ail gartrefi mewn unrhyw gymuned, ei gwneud hi’n angenrheidiol i gael caniatâd cynllunio i droi prif gartref yn ail gartref, ac yn y blaen.

“Ond mae angen defnyddio cymhellion trethiannol hefyd. Rydan ni’n awgrymu codi lefel treth cyngor ar ail gartrefi, a cau’r ‘loopholes’ sydd wedi caniatáu rhai i optio allan o dalu treth cyngor yn gyfan gwbl. Dwi’n apelio ar y Llywodraeth unwaith eto i fynd i’r afael â hyn.”