Mae angen cefnogaeth ar frys i’r gogledd o Ynys Môn yng ngoleuni’r bwriad i gau REHAU, meddai AC Ynys Môn

Mae cyhoeddiad REHAU ei bod nhw’n bwriadu cau eu cyfleuster gweithgynhyrchu yn Amlwch, gan roi 104 o swyddi mewn perygl, yn ergyd sylweddol arall i ardal sydd angen buddsoddiad sylweddol a chymorth, meddai Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.

Yr wythnos hon, cyhoeddodd grŵp REHAU ei bod yn ystyried cau’r ffatri yn Amlwch, a symud y gwaith i leoliad presennol yn Ewrop fel rhan o’u penderfyniad fydd yn cael effaith sylweddol ar y gweithlu – gyda’r mwyafrif o’r gweithlu yn dod o ardal Amlwch – a’r gymuned leol.

Mae hyn yn dilyn cryn dipyn o gyhoeddiadau yn ystod yr wythnos ddiwethaf sydd wedi arwain at golli swyddi ledled yr ynys, gan gynnwys colli dros 800 o swyddi posib yn Wylfa Newydd, a chau dau fanc lleol – un yng Nghaergybi a’r llall yn Llangefni.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae’r newyddion am y bwriad i gau REHAU yn Amlwch yn ergyd ddiflas arall i Fôn, ond yn enwedig i’r gogledd o’r ynys – lle sydd eisoes wedi dioddef effaith ddifrifol y newyddion am ataliad prosiect Wylfa Newydd yn yr wythnos diwethaf.

“Rydw i’n meddwl am y 104 o weithwyr sy’n wynebu colli swyddi ac am y gymuned ehangach, ble mae’r swyddi yma i gyd mor hanfodol – lai nag wythnos ar ôl cyhoeddiad Wylfa Newydd, ni allaf fynegi faint o ergyd yw hwn i’r ardal.

“Byddaf yn galw am gyfarfod brys gyda chynrychiolwyr REHAU Amlwch, gyda’r gobaith o ymweld â nhw yn yfory, a byddaf hefyd yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ar unwaith er mwyn dwyn yr achos dros fuddsoddiad sylweddol yn economi’r ynys. Mae angen gweithredu ar frys arnom nawr.”