Angen mynd i’r afael â phroblem “ddifrifol” sy’n wynebu deintyddiaeth, yn ôl Rhun ap Iorwerth AC

Mae gan y diffyg mewn deintyddion ledled Ynys Môn a’r rhanbarth ehangach oblygiadau real iawn i iechyd ddeintyddol yn yr ardal, a rhaid mynd i’r afael â hyn ar frys, yn ôl AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth.

Dros y misoedd diwethaf, yn dilyn newyddion am ddeintyddfeydd yn cau ar draws yn y rhanbarth, mae AC Ynys Môn wedi bod mewn trafodaethau rheolaidd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch eu cynlluniau i fynd i’r dasg o sicrhau bod cleifion ledled Ynys Môn yn cael mynediad at driniaeth ddeintyddol rheolaidd trwy ddeintyddfa lleol.

Ym mis Ebrill 2019, nododd gohebiaeth gan y Bwrdd Iechyd at Mr ap Iorwerth y dylai cleifion yr oedd yn mynychu’r practis ‘Cathedral Walk’ ym Mangor ‘gysylltu â phractis sy’n gyfleus iddynt’ i holi a fyddai modd iddynt gymeryd cleifion a’i pheidio, gan awgrymu bod dod o hyd i ddarparwr gwasanaeth deintyddol arall yn broses cymharol hawdd yn yr hinsawdd presennol.

Yn dilyn cyhoeddiadau niferus am gau deintyddfeydd eraill ers hynny, mae AC Plaid Cymru wedi bod mewn gohebiaeth bellach â’r Bwrdd Iechyd a mae nhw wedi cyfaddef bod eu holl gapasiti ychwanegol ‘cymedrol’ wedi llenwi’n gyflym, gan gyfaddef nad yw hyn wedi cyflenwi’r angen yn sgil cau’r deintyddfeudd diweddar.

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn cyfaddef eu bod yn rhagweld ‘y bydd y sefyllfa bresennol o ran mynediad at wasanaethau deintyddol yn parhau am ychydig eto.’

Mewn ymateb i hyn, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Nid oes synnwyr fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn awgrymu mai’r cyfan sy’n rhaid i glaf ei wneud yw ffonio o gwmpas er mwyn cael mynediad at wasanaethau, pan rydyn ni’n gwybod yn iawn fod mynediad yn gyfyngedig iawn. Mae’n broblem ddifrifol sydd â goblygiadau real iawn i iechyd ddeintyddol ledled y rhanbarth.

“Yn dilyn cyfres o lythyrau ar y mater yma, mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn cyfaddef maint y broblem ac yn dweud y bydd cryn amser cyn medrir ei ddatrys, ond mae hyn yn tynnu sylw at y brys y mae angen inni fynd i’r afael â’r diffyg mewn gwasanaethau yn lleol.

“Un o’r problemau a amlygir yn rheolaidd yw diffyg deintyddion yn cael eu hyfforddi a’u recriwtio’n lleol. Llwyddodd Plaid Cymru yn eu hymgyrch i gynnig Addysg Feddygol lawn ym Mhrifysgol Bangor. Rydym hefyd wedi galw am ddadl ar ddeintyddiaeth gyda’r gobaith o weld bod addysg bellach ym Mangor yn cael ei hymestyn i hyfforddi deintyddion newydd hefyd. Mae arnom angen deintyddion er mwyn datrys yr argyfwng presennol hwn.