Swyddfa Rhun ap Iorwerth yn cynnig cefnogaeth gyda cheisiadau am docyn bws

Mae swyddfa Aelod Cynulliad Ynys Môn wedi agor eu drysau i etholwyr sy’n pryderu am adnewyddu eu tocynnau bws, trwy gynnig Cymorth i etholwyr sy’n ei chael yn anodd adnewyddu eu tocynnau bws dros 60 oed ar-lein.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol ledled Cymru a Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y tocynnau bws presennol erbyn diwedd 2019, ac er bod y broses o adnewyddu ar-lein yn gyflymach nag adnewyddu trwy ffurflenni papur, gall fod yn heriol mewn cymunedau lle nad oes gan yr etholwyr fynediad at y we neu ymhlith y rhai nad ydyn nhw’n gyffyrddus i fynd ar-lein.

Mae swyddfa’r AC Plaid Cymru yn cynnig helpu unrhyw etholwyr sydd am adnewyddu eu tocynnau, ac maen nhw eisoes wedi cynorthwyo nifer o etholwyr i wneud hynny, yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Gall rhywbeth a all ymddangos yn syml i lawer fod yn anodd iawn i eraill yn ein cymuned, ond mae fy swyddfa yma i helpu ac rydym eisoes wedi gallu cynorthwyo nifer fawr o etholwyr sydd wedi dod atom yn gofyn am help i adnewyddu eu cerdyn bws.

“Mae’n bleser pur gallu helpu fel hyn. Os oes angen unrhyw help ar unrhyw un i adnewyddu ei docyn bws yna dewch i ymweld â’m tîm a minnau yn y swyddfa yn Llangefni a byddwn yn hapus i helpu gyda hynny, neu yn wir unrhyw fater arall.”