Bydd Rhun ap Iorwerth yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ar Ynys Môn

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn bwriadu ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am fwy o gefnogaeth i etholwyr yr Ynys sy’n cael trafferth gyda’r broblem o fod yn gaeth i gyffuriau a sylweddau.

Fe gododd Mr ap Iorwerth y mater gyda’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, gan fod rhai o’r etholwyr wedi mynegi eu pryder ynglŷn â marwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau ar yr Ynys.

Gofynnodd Mr Gething i AC Ynys Môn ysgrifennu ato ynghylch y pryderon sydd wedi’u codi a chytunodd i ymchwilio ymhellach i’r mater.

Dywedodd AC Plaid Cymru:

“Rwyf wedi dod yn ymwybodol o’r hyn sy’n ymddangos yn batrwm pryderus iawn o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ar Ynys Môn yn y cyfnod diweddar. Rwy’n dweud fy mod wedi dod yn ymwybodol o hyn oherwydd ni chafwyd unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r mater hwn, ac mae’r hyn a glywais wedi dod gan bobl yn ein cymunedau yn siarad â mi i rannu eu pryderon.

“Credaf ei bod yn gywir i ddweud y bu nifer o farwolaethau yn ardal Llangefni mewn cyfnod byr yn ddiweddar, a’r prif bryder yw bod pobl sydd yn camddefnyddio cyffuriau wedi bod yn cymysgu cyffuriau bensodiasepin gyda sylweddau eraill ac mae’r canlyniadau wedi bod yn drasig.

“Ar ôl gwneud ymholiadau gyda’r heddlu a’r crwner, mae’n ymddangos nad yw data’n cael ei gasglu yn nhermau cyffur penodol a allai achosi marwolaeth, ac mai dim ond fel ffactor cyfrannol y caiff ei gofrestru.

“Yn ogystal â chodi cwestiwn ar y mater hwn yn Siambr y Cynulliad heddiw, byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt edrych i mewn i’r marwolaethau hyn, i ymchwilio i’r posibilrwydd o batrwm sydd yn bodoli, ac yn apelio am gefnogaeth ychwanegol sydd yn amlwg ar frys er mwyn cynnig help i’r rhai sy’n gaeth i gyffuriau fel y gallwn atal y marwolaethau trasig yma.”