Rhun ap Iorwerth yn cwestiynu Llywodraeth Cymru yn sgil pryderon colli swyddi yn y Brifysgol.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi gofyn i Lywodraeth Cymru, pa gefnogaeth y maen nhw’n ei gynnig i’r Sector Addysg Uwch Cymru pan mae bygythiadau o golli swyddi mewn prifysgolion yng Nghymru yn parhau i ddigwydd.

Yn ddiweddar, mae staff Prifysgol Bangor wedi derbyn cyfathrebiadau gan y brifysgol yn amlinellu sut y gellid torri hyd at 60 o swyddi ar draws y brifysgol er mwyn dal pen llinyn ynghyd.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi mynegi pryderon hefyd, am ei bod hwythau yn wynebu toriadau mewn swyddi yn sgil diffyg o £ 21m a heddiw yn siambr y Cynulliad, gofynnodd Mr ap Iorwerth i Lywodraeth Cymru am ddatganiad am y mater.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Heddiw yn y Cynulliad gofynnais am ddatganiad am yr argyfwng ariannol sydd i weld yn dyfnhau yn ein Sector Addysg Uwch yng Nghymru a gofynnais am esboniad ynghylch pa gynlluniau y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i adolygu’r sefyllfa ariannol bresennol.

“Yr wythnos hon, mae staff Prifysgol Bangor, sydd â phresenoldeb cryf yn fy etholaeth i, wedi dweud eu bod wedi derbyn cyfathrebiadau gan y brifysgol, gan amlinellu achosion busnes ynglŷn â thoriadau pellach, gan gynnwys diswyddiadau, gydag ofnau y gellid colli hyd at 60 o swyddi yn y Brifysgol.

“Nid yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy, ac ni fydd modd cynnal yr un safon addysg nac ymchwil fel a gynigir ar hyn o bryd ar draws sector y brifysgol yn y tymor hir oni bai y daw ateb, ac felly edrychaf ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sut y mae hi’n mynd ymateb.”