Rhun ap Iorwerth yn Ymuno â Chyngor ar Bopeth i ddathlu Pen-blwydd 80 oed

Ymunodd Rhun ap Iorwerth AC â Chyngor ar Bopeth yn y Senedd yn ddiweddar wrth i’r sefydliad ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.

Ffurfiwyd Cyngor ar Bopeth y diwrnod ar ôl dechrau’r Ail Ryfel Byd, ac ar y dechrau fe helpodd bobl i ddelio ag effeithiau rhyfel, a’r newidiadau enfawr a ddaeth yn eu bywydau pob dydd.

Er bod y problemau wedi newid dros amser, mae’r galw am y gwasanaeth wedi cynyddu. Y llynedd, helpodd Cyngor ar Bopeth Cymru dros 3,000 o bobl yn Ynys Môn.

Credyd Cynhwysol, y Taliad Annibyniaeth Bersonol a dyled treth gyngor oedd y tri mater mwyaf cyffredin llynedd, ond mae’r gwasanaeth yn helpu pobl gyda phopeth o broblemau tai, i ddyled na ellir ei rheoli hyd at wahaniaethu yn y gwaith a llawer iawn mwy.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae mynediad at gyngor da yn hanfodol i bawb. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cyflawni rôl hanfodol i bobl ledled Cymru, gan ddarparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim i bawb – pwy bynnag ydyn nhw, a beth bynnag yw eu problem.

“Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw ein gwasanaethau Cyngor ar Bopeth lleol i etholwyr yn Ynys Môn, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i ddarparu gwasanaethau i’r bobl sydd ei angen fwyaf.”